Pennaeth y BBC Tim Davie yn ymddiswyddo yn dilyn beirniadaeth dros raglen ddogfen Trump
Pennaeth y BBC Tim Davie yn ymddiswyddo yn dilyn beirniadaeth dros raglen ddogfen Trump
"We're gonna walk down to the Capitol and I'll be there with you.
"We fight like hell and if you don't you won't have a country anymore."
Dyma'r dyfyniad wedi'i olygu ga'th ei ddarlledu ar raglen Panorama.
Er bod 50 munud rhwng dechre a diwedd y geiriau hynny gan Trump a'r golygu yn newid ergyd yr araith doedd dim ymddiheuriad gan y BBC tan heddi.
Wedi i ddau o benaethiaid y gorfforaeth ymddiswyddo ddoe mae'r Cadeirydd Samir Shah wedi cydnabod bod y golygu yn gamarweiniol ac y dylai'r BBC fod wedi ateb yn ffurfiol.
"Mae 'na drefn ac os chi'n ansicr, mae 'na unigolyn eraill yn ol y canllawiau, fedar eich cynghori chi.
"Dyna hwyrach sydd wrth wraidd hyn ydy bod unedau'r BBC yn gweithredu yn weddol annibynnol o'i gilydd."
Is there institutional bias at the BBC?
"There is no institutional bias."
Gwadu mae penaethiaid y BBC bod y gorfforaeth yn rhagfarnllyd.
Mae'r blynyddoedd diwethaf dan arweinyddiaeth Tim Davie wedi bod yn rhai cythryblus.
Daeth yn rheolwr gyfarwyddwr 5 mlynedd nol ond mae wedi gorfod delio gyda sawl her.
Ga'th cyflwynydd Match of the Day, Gary Lineker ei wahardd o'i waith am gyfnod am feirniadu polisi mewnfudo y Llywodraeth Geidwadol.
Ga'th e ddychwelyd cyn gadael y BBC ym mis Mai eleni.
Ddwy flynedd nol ga'th y Cymro, Huw Edwards ei arestio.
Na'th e ddal i hawlio cyflog am rai misoedd cyn gadael y BBC a phledio'n euog i greu delweddau anweddus o blant.
Roedd 'na feirniadaeth bellach yr haf ar ol darlledu'r artist Bob Vylan, yn arwain cri yn galw am farwolaeth i luoedd arfog Israel.
Gyda'r Siarter Brenhinol yn dod i ben yn 2027 mae dyfodol y gorfforaeth a'i model ariannu yn daten boeth yn wleidyddol.
Papur newydd adain dde y Telegraph wnaeth gyhoeddi pryderon Michael Prescott am ragfarn a thuedd o fewn y darlledwr am y tro cyntaf.
Nawr, mae nifer o wleidyddion yn gweiddi'n groch am ddyfodol y BBC.
"If the BBC doesn't now get a grip, get somebody in from outside somebody who's got a history and a culture of changing organisations I think you would see many millions just refusing to have the licence fee."
"Mae'n bwysig os mae'r licence fee yn parhau mae'n bwysig bod y BBC yn cael parch a trust pobl Cymru.
"Bydd y pethe ni 'di gweld yn risg enfawr i hynny."
Mae rhai nawr yn poeni am oblygiadau hyn oll i Gymru.
"Os oes 'na, fel mae'n ymddangos, fygythiad i ddyfodol y BBC ac i ddyfodol darlledu gwasanaeth cyhoeddus bydd yn cael effaith andwyol ar S4C a darlledu yn Gymraeg."
Dywedodd Cadeirydd y BBC bod camau yn cael eu cymryd pan fod camgymeriadau'n cael eu gwneud.
"Mae angen y BBC yn fwy nag erioed.
"Mae angen newyddion fedrwch chi ymddiried ynddo fe.
"Mae angen pobl sy'n trio torri trwy'r fake news sy'n gosod y ffeithiau.
"Rhaid i'r BBC achub ei hunan rhag ei hunan.
"Y perygl yw bod y gorfforaeth ddim mor ddisgybledig ag sydd angen i gael y fraint aruthrol sydd gan y BBC."
Wedi sawl ergyd diweddar, mae hon yn bennod dywyll arall yn hanes y BBC.
Heb bennaeth na phennaeth newyddion, mae'r gorfforaeth yn parhau yn y penawdau ac yn llygad storm gyfryngol a gwleidyddol.