Gwrthod cynlluniau i droi hen ysgol yng Ngwynedd yn dŷ

Hen ysgol Ganllwyd
Mae cynlluniau i droi hen ysgol gynradd yng Ngwynedd yn dŷ wedi eu gwrthod.  
 
Caeodd Ysgol Gynradd Ganllwyd ger Dolgellau yn 2017 yn rhan o adrefnu'r gyfundrefn addysg yn yr ardal.  
 
Roedd perchennog newydd yr adeilad, Richard Turvey o Ipswich eisiau trosi'r hen ysgol yn llety gwyliau. 
 
Gwrthododd Parc Cenedlaethol Eryri y cais am nad oedd yn cydymffurfio â pholisiau'r Cynllun Datblygu lleol ar anghenion tai yn lleol, ac am nad oedd yn darparu cyfleoedd gwaith neu'n gwella'r adnoddau cymunedol presennol.   
 
Dywedodd yr arwethwr tai Dafydd Tomos, ar ran George a Tomos, o Fachynlleth, mai llety gwyliau oedd yr unig ddefnydd ymarferol, oherwydd maint yr adeilad. 
 
Ychwanegodd y byddai hynny'n ffordd o atal dirywiad yn nghyflwr yr adeilad.
 
"Oherwydd y lleoliad a natur yr ardal, mae galw mawr am lety ar gyfer ymwelwyr, yn enwedig gydag adeiladau mawr sydd â digon o le ar gyfer nifer fawr o bobol, yn deuluoedd mawr, neu ar gyfer grwpiau yn dod at ei gilydd," meddai. 
 
Roedd Cyngor Cymuned Ganllwyd yn gwrthwynebu'r cais, gan ddadlau y byddai'n effeithio ar gymeriad a diwylliant y gymuned, a'r iaith Gymraeg.  
 
Gwrthododd Parc Cenedlaethol Eryri gais i newid defnydd hen ysgol Clogau ym mhentref Bontddu, rhyw 7 milltir o bentref Ganllwyd y llynedd.


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.