Heddlu'n ymchwilio ar ôl dod o hyd i ben hydd yn Sir Gâr
Mae’r heddlu yn apelio am wybodaeth ar ôl i ben hydd gael ei ddarganfod yn Sir Gâr.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn awyddus i siarad gyda dau ddyn wedi iddyn nhw ddod o hyd i ben yr hydd brith ar lwybr cerdded ger Tŵr Paxton yn Llanarthne.
Fe ddaethpwyd o hyd i'r pen brynhawn ddydd Sadwrn, 1 Tachwedd, meddai’r llu.
Cafodd y dynion y mae'r heddlu eisiau siarad â nhw eu gweld yn yr ardal ar fore’r digwyddiad.
Roedden nhw wedi bod yn holi yn lleol am hela ceirw ar dir preifat, meddai'r heddlu.
Llun Tŵr Paxton gan Matt Phillips.