Pryder am ddyfodol ieithoedd modern fel pwnc yn ysgolion Cymru
Pryder am ddyfodol ieithoedd modern fel pwnc yn ysgolion Cymru
"Guten tag. Ich heise Steffan. Ich liebe Deutsh."
"Ich heise Haydn. Deutsh mach bas."
Ydi, mae'r Almaeneg yn iaith fyw yn Ysgol Bro Edern yng Nghaerdydd.
"Mae'n allweddol i fy nyfodol i ddysgu Ffrangeg ac Almaeneg achos mae nifer o brifysgolion am i'r myfyrwyr gwybod dwy iaith."
"Mae dysgu iaith yn hynod o brydferth ac yn ddiddorol.
"Er bod e'n waith caled, mae'n rhywbeth gwerthfawr i gael.
"Ond, dyw'r darlun yn fan hyn o ran astudio ieithoedd tramor modern ddim yn adlewyrchu'r sefyllfa ar draws Cymru."
Mae nifer y disgyblion sy'n astudio Ffrangeg fel pwnc Safon Uwch wedi gostwng 30% o fewn blwyddyn.
Mae nifer y disgyblion sy'n astudio Almaeneg wedi gostwng 32%.
Mae rhybudd gan y British Council Cymru y gallai'r pwnc ddiflannu'n llwyr o'r cwricwlwm ymhen tair blynedd.
"Mae'r niferoedd yn yr haf lawr i 42 sy'n argyfwng.
"Mae 'na dalpau enfawr o Gymru lle chi ddim yn gallu dysgu Almaeneg mewn unrhyw ysgol gyfagos.
"Mae'n plant yn colli mas ar y cyfleoedd sydd ar gael yn Lloegr.
"Mae'n plant ni fod i allu cystadlu gyda'r farchnad swyddi a'r farchnad ryngwladol.
"Ni'n amddifadu'n plant ni o'r cyfleoedd yma."
"Sdim lot o athrawon wedi'u hyfforddi o ran dysgu ieithoedd.
"Mae angen ariannu mwy o hyfforddiant iddyn nhw ac ariannu mwy o ysgolion i roi'r dosbarthiadau ieithoedd ymlaen.
"Heb yr arian yna, mae'r sefyllfa'n mynd i waethygu."
I un fu'n astudio ieithoedd tramor yn y brifysgol mae'n hollbwysig bod y cyfleoedd yma'n parhau.
"Dw i'n gweithio i sianel Euronews sy'n sianel amlieithog.
"'Dan ni'n darlledu mewn 13 o ieithoedd gwahanol yn cynnwys ieithoedd Ewropeaidd ac ieithoedd fel Arabeg ac ati.
"Mae'n bryderus bod y niferoedd yn disgyn a mae'n methu cyfle.
"Nid yn unig y bobl ifanc sy'n methu allan ond mae Cymru fel cenedl yn methu allan."
Pwysleisio mae Llywodraeth Cymru bod nifer y disgyblion sy'n astudio iaith dramor fodern fel pwnc TGAU wedi codi am yr ail flwyddyn yn olynol sy'n galonogol.
Maent hefyd yn nodi bod £1.6 miliwn yn ychwanegol wedi'i fuddsoddi i hybu'r defnydd o ieithoedd tramor modern.
Mae'r nifer sy'n astudio ieithoedd tramor fel pwnc Safon Uwch wedi gostwng yn gyson dros yr 11 mlynedd ddiwethaf.
Yr her fydd newid hynny fel bod cyfleoedd o hyd i ddisgyblion ehangu gorwelion a manteisio ar y cyfloedd sy'n codi wrth ddysgu iaith newydd.