Grŵp bach o Ddemocratiaid yn cefnogi ail agor Senedd yr UDA
Mae aelodau gwleidyddol o Senedd yr UDA wedi cymeradwyo cytundeb fyddai yn galluogi i'r llywodraeth i ail gydio yn ei gwaith.
Mae Llywodraeth ganolog yr UDA wedi bod yng nghau ers 40 diwrnod ar ôl i'r Gweriniaethwyr a'r Democratiaid fethu a chytuno ar becyn cyllid.
Dyma'r cyfnod hiraf ar gofnod i'r llywodraeth ganolog fod yng nghau.
Mae saith Seneddwr Democrataidd ac un aelod annibynnol wedi cytuno gyda'r Gweriniaethwyr ar fesur fydd yn ariannu gwasanaethau llywodraethol tan ddiwedd mis Ionawr.
Daw hyn er bod arweinwyr y ddwy blaid yn anghydweld a'i gilydd.
Mae hyn yn gam mawr ymlaen ond mae yna dal heriau yn y ffordd gan gynnwys cymeradwyo'r mesur gan Dŷ'r cynrychiolwyr a phasio mesurau gweithredu eraill.
Yn ystod y cyfnod diweddar mae cannoedd o filoedd o weithwyr wedi bod heb dâl a gwasanaethau wedi eu heffeithio yn America.
Cymeradwyo'r cytundeb mae Donald Trump, Arlywydd yr UDA wedi ei wneud. Ond mae rhai Democratiaid yn gandryll bod lleiafrif wedi dod i gytundeb gyda'r Gweriniaethwyr.
Llun: Reuters
