Lluniau: Y genedl yn dod at ei gilydd ar Sul y Cofio

Charles / Eluned - Sul y Cofio

Mae gwasanaethau wedi eu cynnal ledled Cymru a'r Deyrnas Unedig ar Sul y Cofio.

Yng Nghaerdydd, cynhaliwyd Gwasanaeth Cenedlaethol Sul y Cofio Cymru wrth Gofeb Ryfel Genedlaethol yng Ngerddi Alexandra, Parc Cathays.

Draw yn Llundain, roedd Brenin Charles III wedi arwain seremoni yn y Senotaff yn Whitehall, Llundain i gydnabod y milwyr fu farw ers dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf.

Dyma ddetholiad o luniau o'r gwasanaethau a gynhaliwyd.

Image
Eluned
Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan yn arwain Gwasanaeth Cenedlaethol Sul y Cofio Cymru 
Image
Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan ac Arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas
Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan ac Arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas, yng Ngwasanaeth Cenedlaethol Sul y Cofio Cymru 
Image
Gwasanaeth Abertawe
Personél milwrol ac aelodau'r cyhoedd yn mynychu gwasanaeth Sul y Cofio yn Abertawe (Llun: Cyngor Sir Abertawe)
Image
Charles
Y Brenin Charles III oedd yn arwain y seremoni Sul y Cofio yn y Senotaff yn Whitehall, Llundain (Llun: PA)
Image
William
Tywysog Cymru yn cydio mewn torch ger y Senotaff yn Whitehall, Llundain (Llun: PA)
Image
Ed Davey / Liz Saville Roberts
Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Ed Davey AS, ac Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS, yn gosod torch ger y Senotaff yn Whitehall, Llundain (Llun: PA)
Image
CPD Abertawe
Chwaraewyr a chefnogwyr Abertawe ac Ipswich Town yn cynnal munud o dawelwch yn y Stadiwm Swansea.com cyn eu gêm ddydd Sadwrn (Llun: CPD Abertawe)
Image
Wrecsam
Chwaraewyr CPD Wrecsam yn dangos eu parch cyn eu gêm ddydd Sadwrn (Llun: CPD Wrecsam)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.