Rhybudd melyn am law trwm yn y de
Mae rhybudd melyn am law trwm mewn grym mewn ardaloedd yn ne Cymru.
Mae'r rhybudd yn ei le rhwng 08:00 a 19.00 ddydd Sul.
Mae'n bosib y bydd rhwng 10-20 mililitr o law yn disgyn ond mae 35-45 mililitr hefyd yn bosib mewn rhai ardaloedd o dir uchel o fewn cyfnod o chwe awr.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd mae posibilrwydd o lifogydd ac y gallai'r glaw effeithio ar wasanaethau cyhoeddus. Maent yn dweud eu bod yn debygol y bydd effaith ar wasanaethau trên a bysiau gyda theithiau yn cymryd hirach.
Mae’r rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol:
- Blaenau Gwent
- Pen-y-bont
- Caerffili
- Caerdydd
- Sir Gaerfyrddin
- Ceredigion
- Merthyr Tudfil
- Sir Fynwy
- Castell-nedd Port Talbot
- Casnewydd
- Sir Benfro
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Abertawe
- Torfaen
- Bro Morgannwg