‘Dod gartre’ i Gymru i berfformio yn hollbwysig’: Syr Bryn Terfel yn dathlu ei ben-blwydd yn 60
Mae’r Cymro balch a chanwr opera byd-enwog Syr Bryn Terfel yn dweud fod “dod gartre’ i Gymru i berfformio yn hollbwysig” wrth iddo ddathlu ei ben-blwydd yn 60 oed ddydd Sul.
O gystadlu mewn eisteddfodau lleol yng Ngwynedd, i berfformio yn nhai opera mawreddog ar draws y byd – mae’r bas-bariton yn dweud ei fod yn falch o’r penderfyniadau y mae wedi ei wneud ar hyd y ffordd.
Ac wrth sgwrsio gyda Newyddion S4C, mae’n dweud ei fod wedi ei “ddychryn” gan yr holl lwyddiant y mae’n parhau i brofi yn ei yrfa.
“Deng mlynedd yn ôl geshi gyngerdd arbennig yn Neuadd Albert Llundain i ddathlu y’m mhen-blwydd yn 50, a neshi dweud bryd hynny alla’i ddim curo beth ddigwyddodd adeg hynna.”
Ond degawd yn ddiweddarach mae’r eicon cenedlaethol yn parhau i fynd o nerth i nerth, ac mae’n benderfynol o rannu’r hyn y mae wedi ei ddysgu gyda’r genhedlaeth nesaf o gantorion hefyd.
“Mae gweithio gyda chantorion ifanc fel amser i mi roid yn ôl achos pan o’n i yn eu hoed nhw ‘nes i gyfarfod Syr Geraint Evans.
“‘Nath o roi gwobr i mi a ‘nath o roi help llaw i gysylltu fi ag arweinyddion, ac i ddechrau ‘da rhoi rhyw fath o hwb i yrfa rhywun ifanc ‘odd yn dangos efallai bod ‘na dalent yna.
“A gennai rhyw fath o deimlad rŵan bod 'na rhywbeth i gario ‘mlaen.
“Felly os alla’i roi rhywun ar ben ffordd a sut digwyddodd pethau i fi yn bersonol, os neith o daro rhyw fath o syniad ynddyn nhw, wedyn mae fy ngwaith i wedi ‘neud yn daclus iawn.”
O Bant Glas i Bassey a Bocelli
Wrth iddo ddathlu ei ben-blwydd ddydd Sul, mae’r seren opera o Bant Glas wedi bod yn hel atgofion am ei flynyddoedd ar y llwyfan.
“Mae canu am y tro cyntaf mewn unrhyw dŷ opera ar hyd a lled y wlad yn rhyw fath o deimlad o bod rhywun wedi cyrraedd rhyw nod,” meddai.
“Boed o yn La Scala yn Milan, neu yn y Metropolitan Opera yn Efrog Newydd, neu yn y Bastille ym Mharis, neu yma yn y Bae neu yn y Tŷ Opera Brenhinol yn Covent Garden [yn Llundain].”
Ond wedi degawdau yn y diwydiant, beth yw’r uchafbwyntiau?
“Odd cael cytundeb gyda chwmni recordio fel Deutsche Grammophon ag Universal yn hollbwysig… ‘odd hynna’n rhywbeth oedd yn ticio rhyw fath o focs yn sicr.
“Ond i fod yn rhan o bethau bythgofiadwy fel canu yn gyda cherddorfa Philharmonic Vienna; yr arweinyddion mae rhywun wedi gweithio gyda – yn sicr baswn i ddim yn fy mreuddwydion yn meddwl y baswn i yn sefyll o’u blaenau nhw – a chyfarfod a cherddorion arbennig.
“Gweithio gyda Roger Waters, gweithio gyda Sting, gweithio gyda Shirley Bassey, Tom Jones, Pavarotti.”
Ac mae ‘na un digwyddiad sydd yn aros yn agos at ei galon o hyd, meddai.
“Cyfnod Gŵyl y Faenol, oedd yn naw mlynedd ym Mangor, lle o’n i’n gallu dod â phobl fel Renne Fleming, Andrea Bocelli, Westlife, Shirley Bassey, Jools Holland, Jamie Cullum.
“’Odd hynna’n anhygoel, bod nhw’n dod i ŵyl yng ngogledd Cymru ac yn perfformio ar lwyfan yng nghanol y mynyddoedd, yng nghanol y glaw.
“Mae dod gartre’ i Gymru i berfformio yn sicr yn hollbwysig.”
'Anrheg pen-blwydd'
Fel rhan o’i ymrwymiad i’r genhedlaeth nesaf mae’r canwr bellach yn gweithio mewn partneriaeth gyda Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i gynnal Gwobr y Gân Syr Bryn Terfel bob dwy flynedd.
Mae’r wobr yn rhoi cyfle i berfformiwr ifanc, sy’n cael eu henwebu gan gonservatoires y DU, ennill £15,000 i fynd tuag at ei astudiaethau.
Ac wedi i’r cystadlu mynd yn ei blaen yr wythnos hon, mae Syr Bryn wedi dweud ei fod yn teimlo fel petai ei fod wedi derbyn “anrheg pen-blwydd heb i’w ddisgwyl".
“Maen nhw gyd yn gorfod canu un gan yn y Gymraeg, Meirion Williams Pan Ddaw’r Nos,” esboniodd.
“O’n i’n gwrando ar y naw ohonyn nhw yn canu yn y Gymraeg am y tro cynta’ ac wedi yng ngwireddu. ‘Odd o’n arbennig.”
Ac i’r rheiny sy’n gobeithio am yrfa yn y diwydiant, dyma, meddai, yw ei gyngor:
“Cyn gynted bod rhywun yn meistroli bod yn gyfforddus ar lwyfan ag yn mwynhau y fath bwysau sydd ynghlwm a dechrau creu gyrfa, 'odd o yn fwyniant pur i fod ar lwyfan.
“Taswn i ddim [yn mwynhau] mi fysa fo wedi tynnu fi yn ôl camau.”
Prif lun: Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru