Rhagolwg gemau Uwch Gynghrair Cymru

Roedd hi’n ddechrau campus i dymor y Fflint yn Uwch Gynghrair Cymru'r penwythnos diwethaf gyda Michael Wilde yn sgorio ddwywaith i’w glwb newydd yn erbyn Met Caerdydd.
Roedd ‘na fuddugoliaethau i Gei Connah ac i’r Seintiau Newydd hefyd ar benwythnos agoriadol y tymor newydd.
Gydag ail benwythnos y gynghrair wedi dechrau, Cei Connah drechodd Aberystwyth o un pwynt i ddim nos Wener.
Ond gêm ddi-sgôr oedd hi yn Sir Benfro, gyda Hwlffordd a Met Caerdydd yn gorffen yn gyfartal.
Dyma ragolwg o weddill gemau'r penwythnos.
Dydd Sadwrn, 21 Awst
Pen-y-bont v Y Drenewydd | Dydd Sadwrn – 14:30
Roedd Rhys Griffiths yn fodlon gyda phwynt yn dilyn eu gêm gyfartal yn erbyn Y Bala brynhawn Sadwrn diwethaf, ac fe ddangosodd Pen-y-bont eu bod yn bwriadu cystadlu gyda’r goreuon unwaith eto eleni.
Chafodd Y Drenewydd ddim gystal lwc wrth golli 1-4 yn erbyn Y Seintiau Newydd ar Barc Latham ddydd Sul.
Ond mae’r Robiniaid wedi ennill eu dwy gêm ddiwethaf yn erbyn Pen-y-bont, yn cynnwys eu buddugoliaeth o 0-1 yn Stadiwm Gwydr SDM yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle ym mis Mai.
Y Fflint v Derwyddon Cefn | Dydd Sadwrn – 14:30
Efallai mai dim ond un gêm sydd wedi ei chwarae, ond teg dweud y byddai Neil Gibson wedi bod yn ddyn hapus wrth weld enw’r Fflint ar frig y tabl yr wythnos hon.
Bydd Niall McGuinness yn dychwelyd i Gae-y-Castell am y tro cyntaf ers cael ei ddiswyddo fel rheolwr Y Fflint ‘nôl ym mis Rhagfyr, ac er mai colli oedd hanes y Derwyddon y penwythnos diwethaf, roedd McGuinness yn llawn canmoliaeth am ei chwaraewyr, roddodd gêm galed i Gei Connah ar y Graig.
Sgoriodd Y Fflint 11 gôl mewn dwy gêm yn erbyn y Derwyddon wedi’r hollt y tymor diwethaf (FFL 5-0 CEFN, CEFN 0-6 FFL), a dim ond 38 gôl sgoriodd Y Fflint drwy’r tymor cyfan, felly daeth 34% o’u goliau cynghrair yn y ddwy gêm honno yn erbyn y Derwyddon.
Y Seintiau Newydd v Caernarfon | Dydd Sadwrn – 14:30
Ar ôl ennill eu gemau agoriadol y penwythnos diwethaf, bydd Y Seintiau Newydd a Chaernarfon yn gobeithio am dri phwynt arall brynhawn Sadwrn i aros tua’r copa.
Bydd hi’n gêm arbennig i amddiffynnwr newydd Caernarfon, Steve Evans, enillodd saith pencampwriaeth gyda’r Seintiau Newydd, cyn treulio pedair blynedd fel is-reolwr i’r clwb.
Collodd Y Seintiau Newydd dim un o’u pedair gêm yn erbyn Caernarfon y tymor diwethaf (ennill 3, cyfartal 1), ond roedd y gêm ddi-sgôr gostus honno ar Neuadd y Parc ym mis Ebrill yn sicr yn teimlo fel colled, yn enwedig gan i’r Cofis orffen y gêm gyda dim ond naw dyn.
Y Barri v Y Bala | Dydd Sadwrn – 17:15
Chafodd y ddau dîm yma ddim y dechrau delfrydol i’r tymor wrth fethu â churo clybiau orffennodd yn is na nhw’r tymor diwethaf.
Cyfartal oedd hi rhwng Y Bala a Phen-y-bont, a chollodd Y Barri yn erbyn Aberystwyth ar ôl ennill eu wyth gêm ddiwethaf yn erbyn y Gwyrdd a’r Duon.
Enillodd Y Bala dair o’u pedair gêm yn erbyn Y Barri’r tymor diwethaf gydag enillydd yr Esgid Aur, Chris Venables yn rhwydo hatric mewn dwy o’r gemau rheiny.
Ond mae’n debyg na fydd capten Y Bala, Chris Venables ar gael ddydd Sadwrn ar ôl gweld cerdyn coch ddydd Sadwrn am ymladd.
Dilynwch uchafbwyntiau gemau’r penwythnos ar wefannau cymdeithasol Sgorio, ac ar S4C nos Lun am 17:30.