Awdur i ysgrifennu llyfr wrth deithio ar drenau a bysiau Cymru
Fe fydd yr awdur Jon Gower yn ysgrifennu llyfr newydd ar deithiau trenau Cymru.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn cydweithio â Jon Gower, cyn-ohebydd celfyddydau a chyfryngau gyda’r BBC, i gyflawni'r prosiect newydd.
Fe fydd Jon yn defnyddio rhwydwaith rheilffyrdd Cymru a'r Gororau a rhwydwaith bysiau Cymru i deithio'r wlad ac i adrodd ei stori.
Fe fydd llyfr 'The Great Book of Wales' yn cael ei gyhoeddi ddiwedd 2026.
Dywedodd Jon: "Mae’r ffaith bod fy nhad Des a'i frawd Derek wedi bod yn gweithio ar y rheilffyrdd yn rhoi cymhwyster ychwanegol i mi ar gyfer y prosiect hwn. Yn blentyn, fe dreuliais lawer o amser yng nghwmni trenau ac yn teithio arnynt.
“Rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i weithio yng Nghymru drwy gydol fy mywyd fel oedolyn ac nid yw byth yn fy synnu, pan fyddwch chi'n meddwl eich bod chi'n adnabod y wlad fach hon yn dda, mae rhywbeth newydd i'w ddarganfod rownd pob cornel."
Ychwanegodd James Williams, Pennaeth Cyfryngau TrC: "Mae adrodd straeon bob amser wedi bod wrth wraidd diwylliant Cymru ac mae gan ein rhwydweithiau rheilffyrdd a bysiau lawer o straeon i'w hadrodd. Mae ein rhwydwaith yn cyrraedd pob cornel ar hyd a lled y wlad a'r Gororau gan gysylltu cymunedau, trefi a phobl."
