Newyddion S4C

Marwolaeth Parc Biwt: Apêl o’r newydd am dystion posib

20/08/2021
Dr Gary Jenkins

Mae heddlu’r de yn apelioam gymorth i ddod o hyd i ddau dyst posib fel rhan o ymchwiliad i farwolaeth dyn yn un o barciau Caerdydd.

Bu farw Dr Gary Jenkins, 54 oed, ddydd Iau, 5 Awst yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd yn dilyn ymosodiad ym Mharc Biwt yn gynnar fore Mawrth, 20 Gorffennaf.

Cafodd tri o bobl eu cyhuddo o lofruddio ac maent wedi eu cadw’n y ddalfa.

Nid yw swyddogion yn chwilio am unigolion eraill mewn cysylltiad â’r ymosodiad ar hyn o bryd.

Mae’r apêl o’r newydd yn ceisio dod o hyd i ddau berson a fedrai gynorthwyo’r heddlu gyda’r ymchwiliad.

Mae’r heddlu’n pwysleisio nad ydy’r bobl hyn wedi gwneud unrhyw beth o’i le ond maent yn gobeithio y bydd ganddynt wybodaeth bwysig a fedrai gynorthwyo’r ymchwiliad i farwolaeth Dr Jenkins.

Image
Witnesses Possible Bute Park
Mae heddlu'r de'n ceisio dod o hyd i ddau berson a fedrai gynorthwyo gyda'u hymchwiliad i farwolaeth Dr Gary Jenkins, gan bwysleisio nad ydy'r bobl hyn wedi gwneud unrhyw beth o'i le.
Lluniau: Heddlu De Cymru

Dywedodd Uwch Swyddog Ymchwilio, y Ditectif Prif Arolygydd Stuart Wales o Dîm Ymchwilio Troseddau Difrifol Heddlu De Cymru: “Hoffwn ddiolch i’r gymuned am y cymorth arbennig maent wedi ei ddarparu i’r ymchwiliad yma hyd yn hyn, sydd wedi helpu gymaint.

“Rydym nawr yn gwneud apêl pellach i’r dyn a’r fenyw yn y lluniau hyn, er mwyn i ni allu siarad â nhw am eu symudiadau yng nghanol Dinas Caerdydd yn ystod yr amser perthnasol.

“Rydym yn credu y byddai’r dyn wedi bod yn rhan uchaf Stryd y Frenhines ger y gyffordd gyda Stryd San Ioan am tua 23:30 nos Lun, 19 Gorffennaf.

“Rai oriau yn ddiweddarach, rhwng 1:40 a 1:45 bore Mawrth, 20 Gorffennaf, roedd y fenyw yn yr un lleoliad yn eistedd ar fainc yn siarad gyda dyn”.

Mae’r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth a fedrai fod o gymorth i’r ymchwiliad i gysylltu â nhw gan ddefnyddio cyfeirnod *254215.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.