Chwarter ymgeiswyr Dinas Ddiwylliant y DU 2025 yng Nghymru
Chwarter ymgeiswyr Dinas Ddiwylliant y DU 2025 yng Nghymru
Mae 20 o ardaloedd yn y Deyrnas Unedig wedi ymgeisio i gael eu henwi’n Ddinas Ddiwylliant y DU 2025 – y nifer uchaf o geisiadau erioed.
Mae chwarter o’r ceisiadau ar gyfer y gystadleuaeth o Gymru, gyda phum ardal yn gobeithio cipio’r teitl.
Fe fydd Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Dinas Bangor a gogledd orllewin Cymru, Dinas Casnewydd, Powys a Sir Conwy yn mynd benben â’i gilydd am yr anrhydedd.
Coventry aeth â’r teitl yn 2021, y drydedd ardal i fynd â’r wobr ers yr enillydd cyntaf yn 2013.
Eleni, mae ceisiadau o bob rhan o’r DU, gyda Dinas Armagh, Banbridge a Craigavon yng Ngogledd Iwerddon, Stirling yn yr Alban a Swydd Gaerlŷr yn Lloegr yn eu plith.
Mae’r gystadleuaeth wedi ei threfnu gan Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) Llywodraeth y DU, gan gyd-weithio â’r llywodraethau datganoledig.
Dywedodd Ysgrifennydd Diwylliant Llywodraeth y DU, Oliver Dowden, fod y nifer o geisiadau yn destament i “lwyddiant ysgubol Dinas Ddiwylliant wrth annog buddsoddiad, creu swyddi a chynyddu balchder lleol”.
Ychwanegodd Mr Dowden: “Mae’r wobr anrhydeddus hon yn gyfle gwych ar gyfer trefi a dinasoedd i ail-adeiladu’n gryfach wedi’r pandemig ac rwyf yn dymuno’n dda i bob un o’r ceisiadau”.
Dros yr wythnosau nesaf, fe fydd y rhestr o ugain yn cael ei lleihau.
Fe fydd rhestr fer derfynol yn cael ei chyhoeddi yn gynnar yn 2022, gyda’r enillydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Mai.