Cynllun yn cynnig cefnogaeth i bobl sydd yn chwilio am waith
Cynllun yn cynnig cefnogaeth i bobl sydd yn chwilio am waith
Mae cynllun mentora yng Ngheredigion yn cynnig cefnogaeth i bobl sydd yn chwilio am waith.
Nod cynllun ‘Cymunedau am Waith a Mwy’ yw cynnig hyfforddiant a chymorth i unigolion sydd eisoes yn byw mewn tlodi neu mewn perygl o dlodi.
Ers blwyddyn, mae David Griffiths, 27 oed, wedi dechrau ar ei swydd gyntaf fel porthor cegin ym mwyty Crwst yn Aberteifi.
Fe lwyddodd David i gael y swydd gyda chymorth ‘Cymunedau am Waith a Mwy’, ar ôl blynyddoedd o fod ar fudd-dal.
"O'n ni ar Universal Credit," dywedodd wrth raglen Newyddion S4C.
"Nawr, mae e'n improving oherwydd y job a fi ar arian teidi.
"Fi'n teimlo'n gwd ac mae popeth yn gwd."
Yn ôl Delor Evans, sydd yn Fentor ar gyfer ‘Cymunedau am Waith a Mwy’, mae'r galw am help gan y prosiect wedi cynyddu yn sgil y pandemig.
"'Da ni wedi cael llawer iawn o bobol yn dod ato' ni - llawer iawn o bobol sy' wedi dod aton ni yn yr oedran 16 i 25 oed," dywedodd.
"Llawer iawn wedi cael eu rhoi ar ffyrlo, llawer iawn wedi colli swyddi ac angen cefnogaeth."