Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn addo 'trwsio'r' Gwasanaeth Iechyd
Mae Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi addo "trwsio" Gwasanaeth Iechyd Cymru, drwy ariannu 5,000 yn rhagor o welyau gofal cymdeithasol.
Wrth siarad yng nghynhadledd ei phlaid yn Wrecsam, dywedodd Jane Dodds y byddai hynny'n helpu'r gwaith o leddfu'r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru,
Rhybuddiodd bod y system iechyd a gofal "ar y dibyn".
Yn ôl Jane Dodds, byddai'r gwelyau newydd yn cael eu hariannu am ba bynnag gyfnod sydd ei angen, gan sicrhau fod bobl yn derbyn y "gofal cywir, yn y lle iawn ar yr amser iawn".
Cadarnhaodd y byddai Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn barod i gynyddu treth incwm, un geiniog ym mhob punt, er mwyn ariannu'r cynllun pe bai raid.
"Os nad oes ffyrdd eraill o ariannu'r newidiadau rydym eu hangen, mae'n rhaid i ni fod yn barod i gynyddu treth incwm," dywedodd wrth aelodau'r blaid yn y gynhadledd.
Ychwanegodd y byddai ei phlaid yn onest gydag etholwyr ynglŷn â chostau cyflwyno "gwir newid".
Daw'r addewid cyn Etholiadau'r Senedd, fis Mai 2026. Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn hawlio eu bod ar y llwybr cywir ar gyfer eu canlyniad gorau erioed.