Arlywydd Afghanistan wedi 'gadael y wlad'

Mae adroddiadau bod Arlywydd Afghanistan wedi gadael y wlad gyda'r Taliban yn mynnu rheolaeth o'r brif ddinas Kabul.
Yn ôl Reuters, mae Ashraf Ghani wedi gadael am Tajikistan.
Mae swyddfa'r arlywydd yn dweud na allant ddweud "unrhyw beth" am symudiadau'r arlywydd am "resymau diogelwch".
Daw hyn ar ôl i swyddogion y Taliban ddweud eu bod wedi cymryd rheolaeth o'r palas arlywyddol yn Kabul.
Yn y cyfamser, mae British Airways wedi dweud wrth eu peilotiaid i aros allan o ofod awyr Afghanistan yn sgil yr argyfwng yn y wlad.
Mae adroddiadau bod un o arweinyddion y Taliban, sydd wedi ei leoli yn Doha, Qatar, wedi dweud wrth eu pobl i ddal yn ôl rhag defnyddio trais.
Serch hynny, mae Sky News yn adrodd bod sŵn gynnau wedi eu clywed yn y brif ddinas.
Yn gynharach, fe hawliodd y grŵp ddinas Jalalabad yn Afghanistan "heb frwydr", gan adael Kabul fel yr unig ddinas oedd dal yn nwylo'r llywodraeth.
Mae eu teyrnasiad diweddaraf yn golygu bod y grŵp bellach wedi meddiannu'r ffyrdd sy'n cysylltu'r wlad â Pakistan.
Dywedodd swyddog o Afghanistan wrth Reuters mai "caniatáu llwybr i'r Taliban oedd yr unig ffordd i achub bywydau sifil."
Mae'r Taliban wedi gwneud cynnydd sylweddol dros yr wythnos ddiwethaf, gyda gwledydd y Gorllewin yn gyrru milwyr ar frys i gael staff diplomyddol o'r wlad.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Masoud Akbari