Arestio dau ar ôl ymosodiad mewn parc yng Nghaerdydd
Mae dau fachgen yn eu harddegau wedi cael eu harestio ar ôl i fachgen 15 oed gael ei drywanu wrth chwarae pêl-droed mewn parc yng Nghaerdydd.
Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ym mharc y Marl yn Grangetown am oddeutu 19:45 nos Iau, 12 Awst.
Ddydd Sadwrn, fe gadarnhaodd Heddlu'r De fod dau fachgen, un yn 16 oed a'r llall yn 14 oed, wedi eu harestio yn dilyn y digwyddiad.
Mae llygad dystion wedi disgrifio bod tua 10 o ddynion ifanc wedi ymosod ar y bachgen 15 oed cyn ymadael i gyfeiriad Canolfan Hamdden Channel View.
Mae'r heddlu yn dweud bod y bachgen 15 oed wedi cael ei drywanu yn ei goes, ond nad yw ei anafiadau yn rhai sy'n peryglu bywyd.
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu gyda nhw gan ddefnyddio rhif cyfeirnod *283858.
Llun: Google