'Difrod enfawr' wedi daeargryn yn Haiti

Al Jazeera

Mae daeargryn wedi taro gorllewin Haiti, gan achosi nifer o farwolaethau a difrod i adeiladau.

Dywedodd prif weinidog newydd Haiti, Ariel Henry, ar Twitter fod y daeargryn wedi achosi marwolaethau a “difrod enfawr” mewn gwahanol rannau o’r wlad.

Tarodd ganolbwynt y daeargryn tua 100 milltir i ffwrdd o ganol Port-au-Prince, prif ddinas Haiti.

Mae adroddiadau yn dweud bod y daeargryn wedi ei deimlo drwy'r ynys yn ogystal ag ar ynysoedd cyfagos yn y Caribî, yn ôl gwasanaeth newyddion Al Jazeera.

Fe gafodd rhybudd tsunami ei gyhoeddi yn fuan ar ôl i'r daeargryn oedd yn mesur 7.2 ar raddfa Richter daro, ond nid oes rhybudd bellach mewn lle.

Mae Haiti yn parhau mewn cyfnod o adferiad ar ôl i ddaeargryn daro'r wlad 11 mlynedd yn ôl, a laddodd degau o filoedd o bobl.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Llun: Twitter