Ymchwiliad heddlu i honiadau o hiliaeth mewn gêm yn Anfield

Antoine Semenyo

Mae'r heddlu'n cynnal ymchwiliad ar ôl i ddyn gael ei hebrwng allan o stadiwm pêl-droed Anfield nos Wener, yn dilyn adroddiadau fod un o chwaraewyr Bournemouth wedi ei gamdrin yn hiliol yn ystod gêm gyntaf Uwch Gynghrair Lloegr yn erbyn Lerpwl. 

Mae'r ymosodwr Antoine Semenyo yn dweud iddo ddioddef hiliaeth gan rywun yn y dorf, a phenderfynodd y dyfarnwr Anthony Taylor roi'r gorau i'r chwarae am gyfnod wedi 29 munud. 

Siaradodd â'r rheolwyr Arne Slot ac Andoni Iraola, cyn i'r capteiniaid Virgil van Dijk ac Adam Smith gael eu galw i drafod ymhellach. 

Cafodd neges gwrth hiliaeth ei darllen i'r dorf yn Anfield, a'r gred yw fod plismyn wedi mynd i ystafell y dyfarnwr yn ystod hanner amser. 

Yn ôl Heddlu Glannau Mersi, cafodd dyn 47 oed ei hebrwng o'r stadiwm, ac maen nhw bellach yn cynnal ymchwiliad.  

Dywedodd y Prif Arolygydd Kev Chatterton: “Dyw Heddlu Glannau Mersi ddim yn goddef unrhyw drosedd gasineb. 

“Rydym yn cymryd digwyddiadau o'r fath o ddifri', a gydag achosion fel y rhain, rydym yn ystyried gorchmynion yn gwahardd unigolion o gaeau pêl-droed.”

Ychwanegodd “Does dim lle i hiliaeth ac mae'n hanfodol bwysig fod unrhyw un sy'n dyst i ymddygiad o'r fath yn cysylltu â stiwardiaid mewn meysydd pêl-droed neu'r heddlu ar unwaith, er mwyn i ni weithredu, fel y digwyddodd heno.  

“Fel ym mhob gêm, rydym yn gweitho'n agos gyda chlybiau Liverpool ac Everton er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd a'r chwaraewyr.” 

Dywedodd llefarydd ar ran Clwb Pêl-droed Lerpwl: “Mae Clwb Pêl-droed Lerpwl yn ymwybodol o honiadau o hiliaeth yn ystod ein gêm yn yr Uwch Gynghrair yn erbyn Bournemouth.

“Rydym yn beirniadu hiliaeth ac unrhyw fath o wahaniaethu - nid oes lle iddo yn ein cymdeithas na phêl-droed.  

“Ni all y clwb wneud sylw pellach, am fod y digwyddiad honedig heno yn destun ymchwiliad yr heddlu, ac rydym yn cefnogi'r ymchwiliad hwnnw yn llawn.”

Wedi'r digwyddiad, sgoriodd Semenyo ddwywaith yn ystod yr ail hanner, ond Lerpwl oedd yn fuddugol wedi'r chwiban olaf o 4-2.  

Llun: Clwb Pêl-droed Bournemouth 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.