Caernarfon: Sefydlu cymdeithas newydd ar gyfer gweithwyr proffesiynol ifanc

Digwyddiad cyntaf Uno yng Nghaernarfon
Cymdeithas Uno

Mae dynes ifanc o Gaernarfon wedi dechrau cymdeithas newydd ar gyfer gweithwyr proffesiynol ifanc yn yr ardal, gyda'r gobaith o herio'r syniad bod "angen setlo i lawr i symud nôl i'r gogledd".

Roedd Teleri Owen, 26 oed, sy'n wreiddiol o Gyffordd Llandudno, wedi symud i Gaerdydd yn 2017 er mwyn astudio hanes yn y brifysgol.

Saith mlynedd yn ddiweddarach, mae hi'n gweithio tuag at ddoethuriaeth yn y pwnc ac wedi dychwelyd i'r gogledd – ond y tro hwn i Bontllyfni ar gyrion Caernarfon.

“Mae o jyst yn hollol wahanol i be dwi’n gofio o ran byw yma,” meddai wrth Newyddion S4C.

“Yn amlwg dw i wedi symud ardal, ond hefyd mae lot o ffrindiau fi – y rhai sydd dal yn byw yma ac erioed wedi gadael – maen nhw mewn lle gwahanol yn bywydau nhw; maen nhw ella efo plant, neu wedi priodi, felly mae’n hollol wahanol. 

"Ac wrth symud nôl hefyd o'n i isho ffeindio pobl sydd mwy ar wavelength fi, ella pobl eraill sydd newydd symud nôl 'ma."

'Dim cymuned'

Ym mis Gorffennaf, fe wnaeth Teleri lansio Uno – cymdeithas ar gyfer gweithwyr proffesiynol ifanc yn yr ardal drwy'r iaith Gymraeg.

“Dw i’n licio mynd i deithio a dw i’n licio mynd i lawr i Gaerdydd, felly sgen i’m rili amser i ymrwymo i wbath fel côr achos dw i'm yma bob wythnos," meddai.

“Felly, o’n i’n meddwl fyswn i’n creu rhyw fath o gymdeithas lle mae pobl yn gallu cwrdd yn anffurfiol bob hyn a hyn.

“Dwi'n meddwl bod 'na dipyn o bobl ifanc yn teimlo’n reit unig yma.”

Image
Teleri Owen a'i ffrindiau
Mae Teleri (canol) yn hoffi cyfarfod pobl newydd ond yn teimlo bod hynny'n gallu bod yn heriol yn y gogledd

Diffyg tai a chyfleoedd gwaith ydy rhai o'r prif resymau pam fod pobl ifanc yn gadael ardaloedd gwledig Cymru, yn ôl Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan.

Fe wnaeth cyfrifiad 2021 ddangos fod saith sir yng Nghymru, nifer yn rhai gwledig, wedi gweld gostyngiad yn eu poblogaeth er bod cynnydd yn genedlaethol. 

Un o'r siroedd hynny oedd Gwynedd, lle wnaeth y boblogaeth ostwng 3.7% o tua 121,900 o bobl yn 2011, i tua 117,400 yn 2021.

Mae Teleri'n cydnabod bod diffyg tai a chyfleoedd gwaith yn gallu bod yn ffactorau sy'n cyfrannu at nifer o bobl ifanc yn gadael ardaloedd gwledig.

Ond er mwyn cael pobl ifanc i aros neu ddychwelyd i'r ardaloedd yma, mae hi'n dweud bod angen canolbwyntio ar ddatblygu rhwydweithiau cymdeithasol.

“Dw i'n rili licio byw yn y gogledd, ond i fi a lot o’n ffrindiau i mae’n teimlo fel rhywle os ti isho symud nôl i’r gogledd neith pobl wastad dweud: pan dwi isho setlo i lawr,” meddai. “A be' mae pobl yn trio deud ydi bod 'na ddim cymuned yma, so dw i angen creu teulu fy hun.”

Ychwanegodd: “Yn gogledd Cymru, mae’n teimlo bo' na ddim rili lle i ni yma, jyst hen bobl neu teuluoedd.

“Os 'da chi methu dod o hyd i gymuned yma, 'da chi’n mynd i deimlo’n unig – mae hynna’n mynd i roi pobl off symud yma.” 

Image
Teleri Owen
Mae Teleri'n gwneud ymchwil i fenywod yn Streic Fawr y Penrhyn ar gyfer ei doethuriaeth

A hithau'n dymuno aros yn y gogledd yn yr hirdymor, dywedodd Teleri ei bod yn benderfynol o fynd i'r afael â rhai o'r problemau.

Ac un o'r pethau sy'n ganolog i gymdeithas Uno, meddai, ydy bod 'na naws gymunedol iddi sy'n debyg i gymdeithasau'r brifysgol.

“Mae lot o’r syniad tu ôl i Uno yn dod nôl i’r cymdeithasau sgen ti yn brifysgol, lle maen nhw’n rili anffurfiol lot o’r amser,” meddai. 

“Yn enwedig y rhai Cymraeg, does na’m byd penodol yn uno pobl ond bod nhw’n siarad yr iaith – dyna ydi’r ysbrydoliaeth, ond ar gyfer pobl bach hŷn sydd dim isho hangover bob bore Iau efo gwaith!” 

Fe aeth ymlaen i ddweud bod y digwyddiad cyntaf, a gafodd ei gynnal mewn tafarn yng Nghaernarfon, wedi bod yn llwyddiannus.

“Yn y dyfodol mi fyswn i’n licio gweld y gymdeithas yn datblygu, bod 'na rhyw fath o social yn digwydd bob mis mewn pub,” meddai.

“Y bwriad yn y bôn ydi creu rhyw fath o grŵp Whatsapp neu Facebook i bobl jyst cael postio yn deud, 'Dwi rili isho gweld y ffilm yma, pwy sydd o gwmpas dydd Sadwrn?' neu, 'Oes 'na rhywun yn mynd i’r gig yma?' neu hyd yn oed rhywun yn deud, 'Oes rhywun isho mynd am dro?' 

“Rhywle lle mae pobl eraill yn edrych am plans hefyd a bo' nhw'n gallu sgwrsio mewn ffordd anffurfiol.” 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.