Cerddor o Fôn i gymryd rhan mewn sioe ffasiwn i godi ymwybyddiaeth o glefyd Lyme

Y cerddor Ren

Mae cerddor poblogaidd o Fôn wedi cyhoeddi y bydd yn cymryd rhan yn Wythnos Ffasiwn Efrog Newydd eleni er mwyn codi ymwybyddiaeth o glefyd Lyme.

Mae Ren Erin Gill, sy’n cael ei adnabod fel Ren, yn ganwr, rapiwr a cherddor aml-offeryn sydd yn byw gyda’r clefyd.

Yn wreiddiol o Ddwyran ar yr ynys, mae gyrfa'r cyn ddisgybl o Ysgol David Hughes wedi mynd o nerth i nerth yn ystod y blynyddoedd diwethaf. 

Mae wedi cyrraedd brig y siartiau Prydeinig ac mae ganddo gannoedd o filoedd o ddilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd.

Wrth gyhoeddi’r newyddion ar ei gyfrif Instagram, dywedodd Ren ei fod yn “hynod o ddiolchgar am y cyfle” i ymddangos yn y sioe ffasiwn elusennol.

"Mae'r clefyd Lyme angen llawer mwy o ymwybyddiaeth, llawer mwy o ymchwil, triniaeth llawer gwell i bobl sydd yn dioddef.

"Mae'n dal yn rhywbeth dwi'n gorfod ceisio ei rheoli o ddydd i ddydd ac mae unrhyw beth allith gael ei wneud i godi ymwybyddiaeth a helpu pobl sydd dal yn y tywyllwch gyda hyn yn ffantastig, mae'n wych."

Bydd y sioe yn cael ei chynnal ar y cyd gyda'r elusennau Project Lyme, Global Lyme Alliance a LymeLight Foundation ar 13 Medi 2025 yn Efrog Newydd. 

Maen nhw'n dweud y bydd selebs, meddygon, ymchwilwyr ac ymgyrchwyr y clefyd yn cymryd rhan, gan wisgo cotiau labordy wrth gerdded lawr y catwalk. 

Bydd yr arian o'r digwyddiad yn cael ei fuddsoddi mewn ymchwil, addysg ac i gefnogi cleifion.  

Llun: @renmakesmusic/Instagram

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.