‘Dirywiad enfawr’ ym mherfformiad Dŵr Cymru

Dwr Cymru

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi galw ar Ddŵr Cymru i wella ar ôl “dirywiad enfawr” yn eu perfformiad.

Dywedodd y corff sy’n gwarchod amgylchedd Cymru bod yr achosion lle mae Dŵr Cymru wedi gollwng carthffosaeth wedi cyrraedd eu huchaf ers 10 mlynedd.

Daw eu galwad wrth i Lywodraeth y DU gyhoeddi ddydd Sadwrn eu bod nhw’n bwriadu edrych eto ar y modd y mae cwmnïau dŵr yn cael eu goruchwilio.

Gallai hynny olygu diddymu'r prif reoleiddiwr, Ofwat, wedi beirniadaeth eang.

Ar ôl gorfod mynd â Dŵr Cymru i’r llys sawl tro fe fydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw llygad fanylach i’r dyfodol, gan addo mwy o orychwilio a mwy o ganllawiau, medden nhw.

Y llynedd roedd Dŵr Cymru wedi gollwng carthion dros 132 o weithiau, y nifer uchaf ers deng mlynedd.

“Rhaid i Dŵr Cymru wneud newidiadau brys a sylfaenol i'w weithrediadau,” meddai Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae Dŵr Cymru wedi dweud eu bod nhw’n addo gwella.

Image
Heather Hughes
Heather Hughes

‘Cywilydd’

Un sy’n nofio mewn afonydd i wella ar ôl salwch yw Heather Hughes ond mae’n dweud bod y newyddion yn gwneud iddi anesmwytho.

“I fod yn onest de mae’n gywilydd,” meddai wrth raglen Newyddion S4C. “Maen nhw wedi codi ein biliau ni i gyd.

“Sa nhw’n defnyddio fo i sortio fo allan sa gynna ni ddim problem.

“Ond mae o jesd yn mynd yn waeth ac yn waeth.

“Da ni’n tsiecio ap Safer Seas and Rivers felly os oes ‘na law mawr wedi bod da ni’n gwybod i tsecio hwnna.

“Ac mae hwnna’n dweud wrthon ni os ma’ na alert yna ‘llu. A dwi jesd yn osgoi fo.

“Ond dwi’n nabod pobl sy’ ‘di bod yn sâl ar ôl bod yn llyn - Llyn Padarn yn enwedig.”

Image
Rhodri Williams
Rhodri Williams

‘Gwerth am arian’

Mae Rhodri Williams, is-gadeirydd Cyngor y Defnyddwyr Dŵr, yn dweud bod y sector dŵr wedi “bod yn methu ers rhai blynyddoedd nawr”.

“Mae ‘na ddiffyg buddsoddiad wedi bod,” meddai wrth raglen Newyddion S4C.

“Dwi’n credu gan fod biliau nawr ar eu lefelau uchaf erioed - wedi codi ar gyfartaledd o ryw 26% - yn ystod y flwyddyn hon.

“Dwi’n credu bod cwsmeriaid yn disgwyl wedyn bod y cwmnïau dŵr yn perfformio ac yn rhoi gwerth am arian i gwsmeriaid.”

Ymateb

Dywedodd Nadia De Longhi, Pennaeth Rheoleiddio a Thrwyddedu o CNC eu bod nhw’n “parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i sbarduno gwelliannau”.

“Rydym wedi gweld dirywiad enfawr ym mherfformiad Dŵr Cymru ers 2020, ac er gwaethaf rhybuddion ac ymyriadau dro ar ôl tro nid ydynt wedi gallu gwrthdroi’r duedd bryderus hon,” meddai.

“Mae hyn wedi ein gadael heb unrhyw ddewis ond mynd ar drywydd nifer o erlyniadau yn erbyn y cwmni ac mae’r rhain wedi dod i ben yn ddiweddar. Nid dyma'r canlyniad rydyn ni ei eisiau, nac ychwaith y canlyniad gorau i'r amgylchedd - ein blaenoriaeth bob amser fydd sicrhau bod cwmnïau'n cydymffurfio ac atal difrod amgylcheddol rhag digwydd yn y lle cyntaf.

“Rydym yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i sbarduno gwelliannau, ond rhaid i Dŵr Cymru fynd i’r afael ag achos sylfaenol y digwyddiadau llygredd hyn a chymryd camau ataliol cyn i fwy o niwed gael ei wneud i’r amgylchedd dŵr.

“Byddwn yn cynyddu ein capasiti ar gyfer monitro ac archwilio gollyngiadau, yn cyfyngu ar orlifoedd storm heb ganiatâd ac yn cyflwyno meini prawf llymach ar gyfer adroddiadau perfformiad blynyddol. Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn derbyn data o'r ansawdd gorau am effaith gweithrediadau cwmnïau dŵr ar yr amgylchedd a'n bod yn gallu ymateb yn briodol.”

Dywedodd Dŵr Cymru wrth raglen Newyddion S4C eu bod nhw’n cydnabod nad ydi’r perfformiad yn ddigon da.

Ond roedden nhw’n dweud bod llygredd carthion yn digwydd ar draws y Deyrnas Unedig.

Maen nhw’n gwario £4bn ar wella’r rhwydwaith, medden nhw. Dylai hynny olygu bod achosion o lygredd yn lleihau.

Ofwat

Mae disgwyl i Lywodraeth y DU addo ddydd Llun na fydd teuluoedd yn wynebu’r posibilrwydd o “gynnydd syfrdanol enfawr” yn eu biliau dŵr mwyach ar ôl ailwampio’r sector yn llwyr.

Mae disgwyl i Ysgrifennydd yr Amgylchedd, Steve Reed, addo diwygio’r diwydiant dŵr mewn modd “trylwyr” ddydd Llun, gan ddweud bod “rheoleiddio wedi methu cwsmeriaid a’r amgylchedd”.

Bydd yn addo “na fydd teuluoedd Prydeinig gweithgar byth yn wynebu cynnydd syfrdanol enfawr yn eu biliau fel y gwelsom y llynedd”, yn ôl adroddiad yn The Times.

Cododd biliau dŵr 26% ar gyfartaledd ar draws y DU ym mis Ebrill.

Gallai’r diwygiadau hefyd gynnwys diddymu'r rheoleiddiwr dŵr Ofwat.

Mae’r rheoleiddiwr wedi wynebu beirniadaeth eang yn ystod y blynyddoedd diwethaf am fethu â chyfyngu ar ollyngiadau carthffosiaeth i afonydd.

Ddydd Gwener, ni wadodd Downing Street ei fod yn paratoi i ddiddymu Ofwat, a dywedodd llefarydd y byddai'r Llywodraeth yn aros am adroddiad gan Syr Jon Cunliffe, sydd wedi bod yn cynnal adolygiad mawr o'r diwydiant.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.