Atal Prif Weithredwr o’i waith dros dro ar ôl cwtsh Coldplay

Cwtsh cyngerdd Coldplay

Mae Prif Weithredwr cwmni wedi ei atal o’i waith dros dro ar ôl i fideo o gyngerdd Coldplay gael ei rannu miliynau o weithiau ar y rhyngrwyd.

Roedd y fideo a gafodd ei recordio ar sgrîn fawr Stadiwm Gillette, Foxborough, Massachusetts yn dangos dau berson yn cofleidio.

Wrth iddyn nhw sylweddoli eu bod nhw’n cael eu ffilmio fe wnaeth y ddau ffoi o olwg y camera.

Dywedodd canwr Coldplay, Chris Martin, wrth y dorf: “Naill ai maen nhw’n cael affêr neu maen nhw’n swil iawn.”

Ddydd Gwener fe gadarnhaodd y cwmni Astronomer bod eu Prif Weithredwr Andy Byron wedi ei wahardd o’i waith dros dro, a dywedodd y cwmni eu bod nhw’n ymchwilio i'r mater.

"Mae Astronomer wedi ymrwymo i werthoedd a diwylliant sydd wedi ein harwain ers ein sefydlu," meddai'r datganiad. 

"Rydyn ni’n disgwyl i’n harweinwyr ni osod y safon o ran ymddygiad ac atebolrwydd. 

“Mae'r Bwrdd Cyfarwyddwyr wedi cychwyn ymchwiliad ffurfiol i'r mater hwn a bydd gennym fanylion ychwanegol i'w rhannu yn fuan iawn."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.