Trawiad ar y galon ddim am atal tad rhag chwarae gêm bêl-droed er cof am ei fab

Alex a Paul Meek

Rhybudd: Mae'r erthygl hon yn cynnwys trafodaeth am hunanladdiad.

Mae tad a gollodd ei fab i hunanladdiad wedi dweud ei fod yn benderfynol o chwarae gêm bêl-droed er cof amdano – er ei fod yn parhau i wella wedi trawiad ar y galon. 

Fe fuodd mab Paul Meek, Alex, farw yn 28 oed ym mis Tachwedd 2023. 

Roedd Alex yn adnabyddus yn ei dref ym Merthyr Tudful fel sylfaenydd tîm pêl-droed merched Heolgerrig Red Lion, sydd yn parhau i fynd o nerth i nerth hyd heddiw ar ôl marwolaeth ei sylfaenydd. 

Fel cadeirydd y clwb, fe fydd ei dad ymhlith nifer fydd yn camu i’r cae pêl-droed ddydd Sadwrn er mwyn chwarae gêm flynyddol er cof amdano. 

Nid dyma yw’r tro cyntaf i Paul Meek, 57 oed, gymryd rhan yng Nghwpan Coffa Alex Meek wedi iddo gystadlu yn y gêm gyntaf fel rhan o dîm Red Lion ym mis Mawrth y llynedd.

Ond ers hynny, mae’r tad wedi wynebu cyfnod heriol gyda’i iechyd wedi iddo ddioddef trawiad ar y galon ar 29 Ebrill 2024. 

Image
Paul ac Alex Meek
Paul Meek gyda'i fab Alex

Wrth siarad â Newyddion S4C dywedodd ei fod yn benderfynol o gyflawni’r her eleni fel teyrnged i’w fab. 

“Mae ar gyfer Alex, dwi’n gorfod gwneud e,” meddai. 

“Mae’n bwysig i fi fel tad. Dwi’n dweud wrth bobl, ‘Dwyt ti ddim eisiau bod yn fy sefyllfa i, mae’n erchyll.’

“Byddwn i ddim yn ei ddymuno ar fy ngelyn gwaethaf ond trwy wneud hyn mae pawb yn ein cymuned yn gwybod beth ddigwyddodd i Alex. 

“Dwi erioed wedi cuddio’r ffaith ei fod wedi ei ladd ei hun… dw i byth am wneud oherwydd dwi eisiau pobl i fod yn ymwybodol o’r hyn sy’n mynd ymlaen.” 

Image
Paul Meek
Paul yn dathlu ar ôl i dîm pêl-droed Heolgerrig Red Lion drechu MAN v FAT y llynedd

'Fel 'na mai'

Fe fydd y gêm yn erbyn MAN v FAT – sef grŵp sy’n helpu dynion i golli pwysau oedd yn agos at galon Alex – yn cymryd lle ym Mharc Penydarren am 13.00 brynhawn Sadwrn. 

Bydd yr holl arian sy’n cael ei godi yn mynd tuag at sefydliad lleol sy’n helpu pobl gyda’u hiechyd meddwl, sef Signposted Cymru. 

Y llynedd fe godwyd dros £8,500 ac mae’r trefnwyr yn gobeithio am ffigwr tebyg eleni. 

Er ei fod yn edrych ymlaen at amddiffyn teitl tîm pêl-droed Red Lion, dywedodd Paul ei fod yn hefyd yn teimlo’n “od” gan fod cwest i farwolaeth ei fab bellach wedi dod i ben. 

Image
Alex Meek
Alex Meek

Fe ddaeth cwest i farwolaeth Alex, yn Llys Crwner Pontypridd ym mis Mai 2025, i’r casgliad ei fod wedi ei ladd ei hun.  

“Mae bywyd yn mynd ymlaen, fel ‘na mai,” meddai Paul. 

“Ond mae Alex yn parhau i helpu gymaint o bobl. Roedd ‘na gymaint o bobl oedd eisiau cymryd rhan yn y gêm yma, mae’n wallgof. 

“Dwi wedi derbyn galwadau ffôn mor bell i ffwrdd a Bryste gan bobl oedd yn dweud eu bod yn adnabod Alex o’r brifysgol, a oes modd iddynt chwarae yn y gêm.

“Dwi wedi dewis chwaraewyr ein tîm oherwydd eu cysylltiadau i Alex. Ond mae’n dîm da – dwi’n mynd yna i ennill y cwpan yna.” 

Image
Gemma ac Alex Meek
Gemma Meek gyda'i brawd

Mae Paul yn dweud ei fod yn hynod o ddiolchgar i’r gymuned am eu holl gefnogaeth, gan gynnwys y dyfarnwyr sydd eisoes wedi cyfrannu £500 i’w hachos.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae dros £30,000 wedi ei godi er cof am Alex Meek. 

Ac mae ei deulu – gan gynnwys ei chwaer Gemma a redodd marathon Llundain er cof amdano eleni – yn dweud eu bod yn parhau i fod yn benderfynol o helpu unrhyw un sy’n dioddef a phroblemau iechyd meddwl yn yr ardal. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.