MasterChef: Sail i honiad o ddefnyddio iaith hiliol gan John Torode

John Torode

Mae'r cyflwynydd MasterChef John Torode wedi cadarnhau mai ef oedd y person a honnir oedd wedi defnyddio iaith hiliol mewn adroddiad oedd yn edrych ar ymddygiad ei gyd-gyflwynydd Gregg Wallace.

Fe wnaeth yr adroddiad, a gafodd ei gomisiynu gan Banijay UK sydd yn cynhyrchu Masterchef, ddarganfod bod yna sail i dros hanner o'r honiadau yn erbyn Wallace.

Roedd yr adroddiad hefyd yn dweud bod yna sail i ddau honiad arall oedd yn erbyn pobl eraill, gan gynnwys un am ddefnyddio iaith hiliol.

Fe ddywedodd John Torode ar Instagram mai ef yw'r person sydd wedi ei honni o ddefnyddio iaith hiliol. Ond doedd ganddo ddim "cof o'r digwyddiad". 

Dywedodd hefyd ei fod wedi ei "synnu a'i dristau" gan yr honiad.

Yn ôl y cogydd a chyflwynydd mae'r honiad yn ymwneud gyda defnyddio iaith hiliol ar un achlysur.

"Yr honiad yw fy mod wedi gwneud hyn rhywbryd yn ystod 2018 neu 2019 mewn sefyllfa gymdeithasol, a bod y person yr oeddwn i yn siarad gyda nhw ddim yn credu ei fod wedi ei fwriadu mewn ffordd faleisus a fy mod wedi ymddiheuro yn syth wedyn.

"Does gen i ddim cof o gwbl o hyn a dydw i ddim yn credu ei fod wedi digwydd. Fodd bynnag dwi eisiau bod yn glir fy mod wastad wedi credu fod unrhyw iaith hiliol yn hollol annerbyniol mewn unrhyw awyrgylch.

"Dwi wedi fy synnu a fy nhristau gyda'r honiad am na fydden ni byth eisiau achosi tramgwydd i unrhyw un."

Mae adroddiadau yn The Sun yn dweud bod y BBC wedi gofyn i Torode adael Masterchef a'i fod wedi cael problemau iechyd meddwl yn dilyn yr honiad. Ond mae pobl oddi mewn i'r BBC wedi ymbellhau eu hunain o'r stori hynny.  

Beth oedd cynnwys yr adroddiad?

Ddydd Llun fe ddywedodd Gregg Wallace ei fod yn "ymddiheuro am unrhyw ofid" wnaeth achosi wedi i'r adroddiad gael ei gyhoeddi. Dywedodd hefyd nad ei fwriad oedd i "frifo na chywilyddio unrhyw un".

O'r 84 o honiadau, roedd sail i 45 ohonyn nhw yn ôl y ddogfen, yn cynnwys un yn ymwneud â "chyswllt corfforol na chafodd ei groesawu."

Roedd yr honiadau yn deillio o gyfnod Gregg Wallace ar y rhaglen Masterchef i'r BBC. Iaith a hiwmor rhywiol amhriodol oedd y rhan fwyaf o'r honiadau yn erbyn Wallace.

Yn ystod yr ymchwiliad sydd wedi para saith mis, cafodd Greg Wallace ddiagnosis yn ymwneud â chyflwr awtistiaeth, meddai'r ddogfen.

Mae'r awduron yn dweud y dylai'r casgliadau gael eu hystyried yng nghyd-destun "amrywiaeth niwrolegol".

Mae'r BBC wedi dweud fod yr "ymddygiad hwn yn disgyn yn is na gwerthoedd y BBC a'n disgwyliadau ar gyfer unrhyw un sy'n gweithio gyda, ni neu ar ein cyfer".

Maent hefyd wedi dweud nad oes ganddynt fwriad i weithio gyda Gregg Wallace yn y dyfodol. 

Llun: PA Wire

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.