Euro 2025: Cymru dal 'ddegawdau tu ôl' i wledydd eraill
Euro 2025: Cymru dal 'ddegawdau tu ôl' i wledydd eraill
Mae'r sylwebydd Gwennan Harries yn dweud bod Cymru dal "ddegawdau tu ôl" i wledydd eraill wedi iddyn nhw golli o 6-1 i Loegr.
Er i'r garfan greu hanes trwy gyrraedd prif gystadleuaeth am y tro cyntaf, colli eu tair gêm wnaeth Cymru yn Euro 2025 yn y Swistir.
Doedd eu grŵp ddim yn hawdd o bell ffordd. Roeddent yn wynebu'r Iseldiroedd, Ffrainc a'r pencampwyr presennol Lloegr.
Wrth siarad ar S4C nos Sul, dywedodd y sylwebydd Gwennan Harries fod gan Gymru ffordd bell i fynd cyn gallu cystadlu gyda'r goreuon.
“Ma’ rhaid ni fod yn realistig,” meddai.
“Yn amlwg ni moyn cystadlu, ond ni’n gwlad bach iawn. Ma’ nifer y chwaraewyr sydd gyda ni yn fach iawn.
“Ma’ pob tîm wedi datblygu dros y degawd diwetha’, ni wedi hefyd ond ni dal degawdau tu ôl cynghreiriau a cymdeithasau pêl-droed eraill."
Mewn cyfweliad ar ôl y gêm dywedodd capten Cymru, Angharad James: “Ni’n gweld nawr faint mor bell mae angen i ni mynd fel grŵp a faint o galed mae rhaid i ni gweithio ar y cae ymarfer.
“Ond balch iawn, ond mae’r daith ‘ma wedi cael ei galw yn ‘summit of emotions’ a dyna yn wir beth oedd hi.”
'Gweithredu'
Er ei fod yn ddiwedd y daith i Gymru yn Euro 2025, y gred yw bod y garfan wedi ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf i chwarae pêl-droed.
Fe wnaeth Cymru werthu 2,400 o docynnau ar gyfer yr ornest yn erbyn Lloegr yn St. Gallen, 300 yn fwy 'na'u gwrthwynebwyr.
Dywedodd Gwennan Harries, a sgoriodd 18 o goliau dros Gymru, bod chwarae yn yr Euros yn gyfle i Gymdeithas Bêl-droed Cymru ddatblygu gêm y menywod ymhellach.
“Fi jyst rili rili moyn i’r Cymdeithas Pêl-droed i neud yn siŵr bod nhw’n adeiladu off hwn," dywedodd.
“Nid jyst bod yn digon bodlon bod hwn yn iawn.
"Jyst neud yn siŵr bod ni yn gweithredu digon o pethe i symud y gêm ymlaen fel bod ni’n gallu cystadlu.”