Newyddion S4C

Canslo cyngerdd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen wedi 'digwyddiad meddygol eithriadol'

Eisteddfod Llangollen

Mae trefnwyr Eisteddfod Ryngwladol Llangollen wedi gorfod canslo cyngerdd Karl Jenkins yno nos Fercher, a hynny o ganlyniad i 'ddigwyddiad meddygol eithriadol'.

Dywed y trefnwyr eu bod yn gweithio gyda'r Gwasanaeth Ambiwlans a thimau meddygol, gan gynnig cefnogaeth iddynt.

Roedd cyngerdd Uno’r Cenhedloedd: Un Byd wedi ei drefnu i nodi 80 mlynedd ers sefydlu’r Cenhedloedd Unedig.

Roedd i fod i ddod â lleisiau "o bob rhan o’r byd at ei gilydd i ddathlu pŵer cerddoriaeth wrth hyrwyddo heddwch, cydraddoldeb, ac urddas dynol".

Ond mewn datganiad nos Fercher, dywedodd y trefnwyr: "Oherwydd digwyddiad meddygol eithriadol - mae digwyddiad heno wedi'i ganslo.

"Hoffem ddiolch i'n timau meddygol ein hunain sy'n rheoli'r digwyddiad meddygol eithriadol hwn.

"Rydym yn gweithio gyda'r gwasanaethau Ambiwlans a'r timau meddygol sy'n rheoli'r digwyddiad gan roi'r gefnogaeth angenrheidiol iddynt.

"Mae'n fwriad cynnal yr ŵyl fel arfer o 9:00 yfory, ond bydd hyn yn seiliedig ar y cyngor meddygol arbenigol a dderbyniwn.

"Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir."

Nid oes rhagor o fanylion am ba fath yn union o ddigwyddiad meddygol sydd wedi effeithio ar y cyngerdd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.