Newyddion S4C

Teyrngedau i 'gwir gyfaill' yn dilyn damwain beic modur

Craig Willis

Mae teyrngedau wedi'u rhoi i ddyn 40 oed a fu farw mewn damwain beic modur.

Bu farw Craig "Laney" Willis, o Risga, sir Caerffili, mewn gwrthdrawiad â beic modur arall yng Nghasnewydd, ddydd Sadwrn 28 Mehefin.

Dywedodd ei deulu y byddai "llawer o bobl yn ei golli'n fawr, ond na fydd byth yn cael ei anghofio".

"Roedd yn gyfaill gwir ac yn ŵr bonheddig i bawb oedd yn ei adnabod," medden nhw.

Dywedodd Heddlu Gwent fod swyddogion wedi parhau i roi cefnogaeth i'w deulu.

Cafodd yr ail feiciwr modur ei gludo i'r ysbyty yn dilyn y ddamwain ond dywedodd yr heddlu nad oedden nhw’n credu bod ei anafiadau yn fygythiad i nac yn newid bywyd.

Llun: Teulu

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.