Newyddion S4C

O leiaf 24 o bobl wedi marw mewn llifogydd yn Texas

Llifogydd Texas

Mae o leiaf 24 o bobl wedi marw a degau eraill ar goll yn dilyn llifogydd yn nhalaith Texas yn yr UDA.

Dywedodd Is-Lywodraethwr Texas Dan Patrick fod Afon Guadalupe wedi codi 26 troedfedd mewn 45 munud gan sgubo ceir, cartrefi symudol a chabanau gwyliau i ffwrdd.

Mae criwiau achub yn dal i chwilio am hyd at 25 o blant oedd ymhlith 750 oedd yn mynychu gwersyll haf Cristnogol Camp Mystic yn yr ardal sydd tua 64 milltir i’r gogledd orllewin o ddinas San Antonio.

Mae stad o argyfwng wedi'i gyhoeddi mewn sawl sir lle mae sawl ffordd wedi'u golchi i ffwrdd a llinellau ffôn i lawr.

Dywedodd yr Arlywydd Donald Trump fod y digwyddiad yn "syfrdanol" ac yn "ofnadwy" wrth i'r Tŷ Gwyn addo cymorth ychwanegol.

Dywedodd Is-Lywodraethwr Texas, Dan Patrick: "O fewn 45 munud, cododd Afon Guadalupe 26 troedfedd ac roedd y llifogydd yn ddinistriol, gan gymryd eiddo ac, yn anffodus, bywydau."

Dywedodd swyddogion y byddai gweithrediadau chwilio ac achub, sy'n cynnwys hofrenyddion, dronau a chychod, yn parhau nes bod pawb wedi cael eu cyfrif.

Dywedodd y gwersyll nad oedd ganddynt bŵer, dŵr na wi-fi, gan ychwanegu bod "y briffordd wedi golchi i ffwrdd, felly rydym yn ei chael hi'n anodd cael mwy o gymorth".

Llun: People.com

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.