Newyddion S4C

Rhyddhau Bariau i gynulleidfa ryngwladol yn America, Awstralia a Seland Newydd

Bariau

Bydd cyfres Bariau S4C yn cael ei dangos yn America, Awstralia a Seland Newydd ar ôl iddi gael ei gwerthu i gwmni rhyngwladol.

Acorn TV sydd wedi llofnodi cytundeb ar gyfer y gyfres gyntaf a'r ail o'r rhaglen Gymraeg gan gwmni Rondo.

Bydd y penodau ar gael i gynulleidfaoedd Acorn yn yr Unol Daleithiau a thrwy eu gwasanaethau yn Awstralia a Seland Newydd.

Mae'r gyfres yn bennaf yn y Gymraeg gyda rhai cymeriadau iaith Saesneg. Teitl y gyfres yn Saesneg fydd 'Inside'.

Cafodd ail gyfres Bariau ei darlledu ar y sgrin fach ym mis Ebrill yn dilyn llwyddiant y gyfres gyntaf.

Mae'r gyfres yn mynd â gwylwyr tu ôl i ddrysau Carchar y Glannau gyda’r straeon wedi’u seilio ar brofiadau a thystiolaeth carcharorion a swyddogion carchar go iawn.

Dywedodd Bedwyr Rees, Cynhyrchydd Rondo, ei fod yn falch y bydd Bariau ar gael i gynulleidfaoedd y tu hwnt i Gymru.

"Mae'r penodau 30 munud wedi bod yn llwyddiannus yn y fformat ar-lein gyda sawl person yn gwylio'r gyfres gyfan mewn un sesiwn gwylio," meddai.

"Rydym wrth ein bodd y bydd Acorn TV yn dangos Bariau i gynulleidfa ryngwladol ehangach."

Ychwanegodd Emmanuelle Guilbart and Laurent Boissel, prif weithredwyr APC, y gwnaeth sicrhau'r cytundeb ar ran Acorn: "Mae galw parhaus o gwmpas y byd am gyfresi realistig sydd yn onest.

"Mae ein perthynas gyda Acorn TV yn galluogi cynulleidfaoedd yn America, Awstralia a Seland Newydd i fwynhau'r ddrama yma sydd yn cipio sylw gwylwyr."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.