
Caerdydd: Rhieni yn 'rhwystredig' gyda diffyg llefydd parcio ger ysgol newydd
Mae rhieni i ddisgyblion ysgol ddwyieithog newydd yng Nghaerdydd yn "rhwystredig" gyda diffyg llefydd parcio ar ôl i ddatblygwr tai atal mynediad dros dro at ffordd sydd yn arwain at yr ysgol.
Ysgol Gynradd Groes Wen yw'r ysgol gyntaf i agor ger ystâd tai Plasdŵr yng ngogledd orllewin y ddinas, a hynny yn 2023.
Ers i'r ysgol agor mae rhieni yn dweud bod y lôn bysiau ar Rodfa Plasdŵr, sydd ddim yn cael ei ddefnyddio gan fysiau ar hyn o bryd, wedi cael ei ddefnyddio gan rieni i barcio ar adegau prysur.
Ond bellach mae datblygwyr tai Barratt-Redrow wedi cau'r lôn bysiau dros dro er mwyn galluogi i gerbydau adeiladu gael mynediad at dai sydd dal yn cael eu hadeiladu yn yr ardal.
Dywedodd y datblygwr tai eu bod nhw wedi gwneud hynny "er budd iechyd a diogelwch ac i osgoi'r risg i blant a rhieni".
Dywedodd un rhiant, Jamie sydd yn mynd â'i blentyn i'r ysgol ei fod ef a nifer o rieni eraill wedi gorfod parcio yn un o ystadau tai eraill am nad oedd lle bellach ar Rodfa Plasdŵr.
"Mae'n rhwystredig nad oes mwy o lefydd parcio," meddai'r rhiant 36 oed.
"Dwi'n gwybod eu bod nhw'n ceisio annog pobl i gerdded i'r ysgol ond dydw i ddim yn byw o fewn pellter cerdded felly dyna'r broblem.
"A nawr mae rhaid i ni frwydro am lefydd parcio yn yr ystâd dai.
"Dwi'n teimlo'n wael oherwydd mae'r bobl sydd yn byw yno siŵr o fod yn anhapus.
"Fel arfer, heb y coniau yn y lôn bysiau mae 50 i 100 o geir yno, ond nawr mae rhaid i chi adael llawer cynt i fynd i'r ysgol."

'Plant yn rhedeg o gwmpas'
Mae cwmni Barratt-Redrow wedi ysgrifennu at eu contractwyr yn eu hatgoffa i beidio cludo nwyddau i'r safle ger yr ysgol cyn 09.30.
Ond mae loriau wedi bod yn gyrru i Rodfa Plasdŵr er mwyn cael mynediad i'r safle adeiladu cyn 09:00
Dywedodd un person sydd yn byw ar Heol Cynwrig yn un o'r ystadau tai ger yr ysgol bod y stryd yn hynod brysur pan mae rhieni yn casglu eu plant o'r ysgol.
"Bydd yn dda deall pam mae’r lôn wedi'i chau gan y cwmni adeiladu, oherwydd dim ond mewn mannau penodol y mae angen iddyn nhw fynd i mewn i'r safle,” meddai Ryan, rhiant arall sy’n mynd â’i blentyn i’r ysgol.
Ychwanegodd bod rhai rhieni wedi dechrau parcio ar y llinellau melyn dwbl yn Rhodfa Plasdŵr, gan ei gwneud yn stryd un lôn yn y bôn mewn mannau penodol.
“Os oes angen i chi gael peiriannau trwm i fyny yma… mae gennych chi ddwy ochr y ffordd nawr yn cael ei defnyddio ar gyfer parcio gyda phlant yn rhedeg o gwmpas.”
Mae Plasdŵr yn ddatblygiad tai a fydd yn y pen draw yn darparu hyd at 7,000 o gartrefi ac mae'n cael ei adeiladu'n raddol.
Dywedodd cyfarwyddwr prosiect o Barratt-Redrow, Wayne Rees: “Mae mynediad i'r darn byr hwn o lôn fysiau wedi'i gau i atal unrhyw barcio anfwriadol a pharcio nad oes modd ei reoli.
“Cafodd y penderfyniad hwn ei wneud er budd iechyd a diogelwch i osgoi'r risg i blant a rhieni wrth gamu i'r ffordd.
“Mae llwybrau troed i gerddwyr wedi'u cwblhau drwy gydol y datblygiad a byddem yn annog rhieni i ddefnyddio'r rhain er mwyn cyrraedd yr ysgol yn ddiogel.”