Neil Foden: Adroddiad cyn Gomisiynydd Plant yn nodi cynnydd ond gwaith pellach i'w gyflawni
Mae cynnydd yn cael ei wneud oddi mewn i'r Cynllun Ymateb i Droseddau'r cyn bennaeth ysgol Neil Foden, ond mae gwaith pellach i’w wneud er mwyn atal unrhyw blentyn yng Ngwynedd rhag dioddef yn yr un modd eto, yn ôl adroddiad gan gyn Gomisiynydd Plant Cymru.
Dyna yw neges yr Athro Sally Holland wrth iddi baratoi i gyflwyno ei hadroddiad chwarterol cyntaf ers ei phenodi’n gadeirydd annibynnol y Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb i Droseddau.
Cafodd y bwrdd ei sefydlu gan Gabinet Cyngor Gwynedd fis Ionawr 2025, i fonitro cynnydd ar y cynllun, i gynnig cyngor ac i herio’r sefydliad.
Cyhoeddodd y cyngor ym mis Ionawr y byddai'r cynllun yn "troi pob carreg i sefydlu be aeth o’i le" yn sgil troseddau'r pedoffeil Neil Foden, a gafodd ei garcharu am 17 o flynyddoedd fis Gorffennaf y llynedd ar ôl ei gael yn euog o gam-drin pedair merch dros gyfnod o bedair blynedd rhwng 2019 a 2023.
Yn ôl yr Athro Holland mae cynnydd cadarnhaol wedi'i wneud hyd yma gyda 32 o’r 63 tasg gwaith wedi'u cwblhau.
Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Gwynedd fod y prosiectau sydd eisoes wedi eu cwblhau o fewn y Cynllun Ymateb yn cynnwys adroddiad gan fargyfreithiwr annibynnol sy’n arbenigo mewn ymchwiliadau diogelu a gomisiynwyd i gynnal ymchwiliad i ddigwyddiadau penodol yn 2019 a gafodd eu hamlygu yn ystod achos troseddol Neil Foden.
Dywedodd yr awdurdod fod yr adroddiad wedi ei dderbyn a'u bod wedi ymrwymo i weithredu ar yr argymhellion. Bydd hynny yn cael ei fonitro gan y Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb i Droseddau.
Mae'r datganiad hefyd yn nodi fod Ymchwiliad Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth wedi ei gwblhau a gweithdrefnau Rhyddid Gwybodaeth Cyngor Gwynedd wedi eu diweddaru.
Mae'r sefyllfa yn Ysgol Friars, Bangor, lle roedd Neil Foden yn bennaeth hefyd wedi "sefydlogi" yn ôl y datganiad. Mae pennaeth dros dro newydd wedi ei phenodi yno.
Nododd y cyngor hefyd fod ymchwiliad i drefniadau diogelu wedi ei sefydu gan eu Pwyllgor Craffu, a bod disgwyl i'r ymchwiliad hwnnw ddod i ben cyn diwedd 2025.
Mae’r gweithgaredd sydd wedi deillio o’r Cynllun Ymateb yn rhedeg ochr-yn-ochr ag ymchwiliadau’r Adolygiad Ymarfer Plant (CPR) sef proses statudol sy’n cael ei chynnal gan Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru
"Cryfhau hyder"
Dywedodd yr Athro Sally Holland, Cadeirydd y Bwrdd Rhaglen: "Holl bwrpas y Cynllun Ymateb hwn a phob cam mae’r Cyngor yn ei gymryd yw gwneud popeth posibl i atal troseddau o'r fath rhag cael eu cyflawni gan bersonau mewn swyddi o ymddiriedaeth, a dylai hynny fod bob amser ar frig ein hystyriaethau.
"Mae’n hanfodol fod Cyngor Gwynedd yn cryfhau hyder trigolion y sir ei fod yn gwneud popeth o fewn ei allu i ddiogelu plant mewn amgylchedd ysgol ac y bydd yn ymateb yn gadarn pan fod pryderon yn cael eu codi.
"Rydw i’n falch o ddod â’r adroddiad cyntaf hwn i’r Cabinet i ddangos y gwaith sydd wedi ei wneud hyd yma ac i amlygu’r hyn sydd eto i’w gwblhau.
"Fel rwyf yn nodi yn yr adroddiad, mae’r swyddogion sy'n aelodau o'r Bwrdd yn awyddus i wneud cynnydd yn y meysydd gwaith y maent yn gyfrifol amdanynt, ac maent wedi dangos parodrwydd i wrando a gweithredu ar gyngor arbenigwyr allanol a gweddill y Bwrdd.
"Mae cydnabyddiaeth lawn gan bawb na fydd hon yn broses gyflym na hawdd gyda rhagor o waith manwl o’u blaenau. Fel bo pob ymchwiliad annibynnol yn cael ei gwblhau, mae’n rhaid i’r cynllun ymateb gael ei addasu a’i gryfhau."
Ychwanegodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd: "Mae’n bwysig pwysleisio ein bod fel Cyngor yn parhau i gadw’r goroeswyr a’u teuluoedd, a phawb sydd wedi cael eu heffeithio gan yr hyn ddigwyddodd, ar flaen ein meddyliau a bod eu cryfder yn ein sbarduno i edrych ar ein trefniadau a dysgu gwersi pellach gyda chymorth ac arweiniad y Bwrdd Rhaglen."
Cyhoeddodd Cyngor Gwynedd hefyd eu bod wedi cwblhau ymchwiliad mewnol arall gan dderbyn adroddiad a gafodd ei gomisiynu gan ymchwilydd Adnoddau Dynol annibynnol i asesu a oedd ymateb Ysgol Friars, Llywodraethwyr yr ysgol a’r Cyngor i ganfyddiadau Adroddiad Panel Cwynion a gafodd eu cynnal yn 2019 yn ddigonol ac yn briodol.
"Sefydlwyd nad oedd yr adroddiad hwnnw yn 2019 yn ymwneud â chwynion am faterion diogelu plant ond casglwyd hefyd y gellid fod wedi sicrhau gwell ymateb gan y Corff Llywodraethu a gan y Cyngor, i argymhellion y Panel, " meddai datganiad y cyngor.
Bydd adroddiad yr Athro Sally Holland, yn cael ei gyflwyno i Gabinet Cyngor Gwynedd ddydd Mawrth, 8 Gorffennaf.