Y GIG wedi bod yn 'rhan hanfodol o fy mywyd' medd Michael Sheen
Mae'r actor Michael Sheen wedi dweud bod y gwasanaeth iechyd (GIG) wedi bod yn "rhan hanfodol" o'i fywyd.
Bydd Sheen sy'n 56 oed chwarae rhan sylfaenydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Aneurin Bevan unwaith eto wythnos yma yn y ddrama Nye.
Dywedodd wrth raglen ITV Good Morning Britain: "Yn y blynyddoedd diwethaf mae fy mhlentyn wedi dod i'r byd trwy'r GIG ac fe wnaeth fy nhad, dim ond ychydig wythnosau yn ôl adael y byd yma gyda help y GIG.
"Felly mae wedi bod yn rhan hanfodol o fy mywyd i yn ystod y blynyddoedd diwethaf. A dwi'n gwybod ei fod yn cyffwrdd bob un pan maen nhw'n dod i weld y sioe."
Fe fydd y cynhyrchiad i'w weld ar lwyfannau Llundain a Chaerdydd unwaith eto ar ôl cael ei dangos y llynedd.
'Un o'r areithwyr gorau'
Yn ôl Sheen roedd bywyd Aneurin Bevan yn "eithriadol". Cafodd ei fagu yn Nhredegar cyn dod yn weinidog iechyd yn y llywodraeth wedi'r Ail Ryfel Byd.
Roedd ganddo atal dweud ond roedd yn cael ei adnabod fel "un o'r areithwyr gorau ei gyfnod" meddai Michael Sheen.
"Dwi'n credu mai un o'r golygfeydd mwyaf pwerus yn y ddrama yw pan mae'n mynd i lyfrgell y gweithwyr yn Nhredegar ac mae'n dysgu i ehangu ei eirfa," meddai.
"Mae wedyn yn medru dewis gair arall os ydy o yn gwybod y bydd yna air yn dod i fyny fydd yn gwneud iddo atal dweud (stutter).
"Roedd hyn yn ychwanegu i'r ffordd anhygoel roedd yn areithio yn nes ymlaen pan aeth i Dy'r Cyffredin."
Roedd Aneurin Bevan yn weinidog iechyd rhwng 1945 ac 1951 ac mae'n cael ei ddisgrifio fel pensaer y gwasanaeth iechyd.
Yn y ddrama mae'n edrych yn ôl ar ei fywyd tra ei fod ar ei wely angau.
Cwmni theatr
Yn gynharach eleni fe ddechreuodd yr actor gwmni theatr Welsh National Theatre.
Fe geuodd National Theatre Wales eu drysau fel cwmni theatr yn ei ffurf bresennol ym mis Rhagfyr ar ôl iddynt stopio cael nawdd yn 2023. Roedd hyn meddai Sheen yn y cyfnod pan oedden nhw yn ymarfer ar gyfer Nye.
"Roedden ni yn edrych ar y posibilrwydd bod ein gwlad ni yn mynd i fod heb theatr genedlaethol ei hun," meddai.
"Felly o ganlyniad i wneud y sioe Nye a gweld pa mor llwyddiannus oedd hi, y ffordd y gwnaeth y gynulleidfa ymateb, yn enwedig yng Nghymru...roedd gweld yr awch yna wedi gwneud i fi feddwl, ie fe allwn ni wneud hyn. Pam ddim?"
Llun: PA