Cyhuddo dyn o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn 36 oed yn y Rhondda
Mae dyn wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn "marwolaeth sydyn" dyn arall yn y Rhondda, yn ôl Heddlu De Cymru.
Cafwyd hyd i gorff Christian Dean, 36 oed, yn Ynyshir, Porth, ddydd Iau.
Cafodd swyddogion eu galw i dŷ ar Ffordd y Graig ychydig cyn 13.00.
Mae Thomas Griffiths, 34 oed o Ynyshir, wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth ac mae'n cael ei gadw yn y ddalfa.
'Colled fawr'
Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd teulu Christian Dean ei fod yn gymeriad "adnabyddus a charedig".
"Mae colli Christian wedi effeithio’n ddwfn ar ei deulu, ei ffrindiau, a’r gymuned ehangach a oedd yn ei adnabod yn dda," meddai ei deulu.
"Roedd Christian yn gymeriad adnabyddus a charedig. Daeth Christian ag egni, hiwmor, a chynhesrwydd lle bynnag yr aeth.
"Roedd yn dad ymroddedig i dri o blant ac yn fab, brawd, partner a ffrind annwyl iawn. Bydd llawer yn teimlo ei golled yn fawr."
Ychwanegodd: "Mae’r teulu wedi gofyn am breifatrwydd ar yr adeg hon wrth iddynt ddod i delerau â’u galar."