
Caerdydd: Defnyddio 3,000 o hetiau bwced i greu murlun o Oasis
Mae murlun o’r brodyr Gallagher wedi ei ddadorchuddio yng Nghanolfan Siopa Dewi Sant wrth i filoedd edrych ymlaen at berfformiad Oasis ym mhrifddinas Cymru yr wythnos nesaf.
Fel rhan o’r dathliadau mae gwaith celf 16 troedfedd o uchder wedi ei greu – a hynny drwy ddefnyddion 3,000 o hetiau bwced.
Bydd Oasis yn cychwyn eu taith yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon gyda dau gyngerdd yn y brifddinas ddydd Gwener a dydd Sadwrn nesaf.
Dyma fydd y tro cyntaf i’r brodyr berfformio gyda’i gilydd ers 2009.
Y Cymro Nathan Wyburn yw’r artist y tu ôl i’r murlun enfawr o’r enw Wonder Wall, ar ôl un o ganeuon enwocaf y band, sydd i’w ar lawr cyntaf y ganolfan ger y bwytai sydd yno.

Dywedodd Helen Morgan, cyfarwyddwr Canolfan Siopa Dewi Sant eu bod wedi eu “hanrhydeddu” ac yn “gyffrous” am y ffaith mai Caerdydd fydd lleoliad perfformiadau cyntaf Oasis o'r daith.
“Roedden ni eisiau dathlu’r ddinas am ei bod y lle cyntaf y gall eu cefnogwyr ddod i weld yr aduniad,” meddai.
“Felly fe wnaethon ni gomisiynu portread unigryw Wonder Wall er mwyn anrhydeddu Noel a Liam a’r daith ryngwladol epig.
“Dyma yw’r defnydd gorau o hetiau bwced erioed.”
Lluniau: UMPF