Newyddion S4C

Pam bod cynnydd yn nifer y bobl ifanc sy'n mynd i'r eglwys a'r capel?

Pam bod cynnydd yn nifer y bobl ifanc sy'n mynd i'r eglwys a'r capel?

Mae nifer y bobl ifanc sydd yn mynd i'r capel neu'r eglwys wedi cynyddu yn ôl gwaith ymchwil newydd - ond pam?

Mae arolwg gan YouGov ar ran Cymdeithas y Beibl yn awgrymu bod cynnydd o 4% - i 16% - wedi bod rhwng 2018 a 2024 yn nifer y bobl ifanc rhwng 18 a 34 oed sy'n mynd i’r eglwys.

Roedd hynny er bod yr un arolwg, a holodd 13,146 o oedolion ar draws y DU ym mis Tachwedd a Rhagfyr y llynedd, yn awgrymu cwymp yn nifer y bobl ar draws y DU oedd yn disgrifio eu hunain fel Cristnogion erbyn hyn.

Un dyn ifanc sydd wedi dechrau mynd i Eglwys Ffynnon yn Llandysul yn y tri mis diwethaf yw Bedwyr Llywelyn, sydd yn 18 oed.

Dywedodd wrth Newyddion S4C ei fod wedi dechrau mynd i wasanaethau ar ddydd Sul ar ôl mynd i'r clwb ieuenctid am gyfnod.

"Fi’n credu bod e jyst i neud â y cymuned sy’ ‘ma a bod pobl yn annog fi i ddod," meddai. 

"Achos o’n i’n darllen y Beibl, o’n i’n dod ato yn y clwb ieuenctid a pethe, ond o’n nhw fel ‘dere ar dydd Sul, bydd ti’n gweld benefit mawr o fe.

"A wedyn nes i penderfynu dod a fi dal yn dod tri mis yn ddiweddarach."

Ers yn 15 oed mae Ioan ab Iestyn o Landysul wedi bod yn mynychu gwasanaethau Ffynnon yn gyson, a hynny'n benderfyniad iddo ei wneud ar ôl gwthio crefydd i'r ochr pan oedd yn blentyn.

"Ma’n rhywbeth nes i rili dechrau meddwl am pan o’n i’n dod i Ffynnon yn rheolaidd," meddai.

"O’n i wedi sort of gwthio fe i’r ochr pan o’n i’n blentyn a o'n i'n meddwl ‘o ma’ fe jyst yn rhywbeth fi’n neud ar dydd Sul.

"Ma’r eglwys yn lle sydd yn agored i bawb, s’dim ots pwy y’n nhw."

Image
Bedwyr (crys Cymru), Iestyn (siwmper du) ac Elisa yn sgwrsio
Bedwyr (ar y dde), Ioan (ar y chwith) ac Elisa yn sgwrsio

Sgwrs 'anodd'

Fel Cristnogion ifanc mae ffrindiau Bedwyr a Ioan yn gofyn cwestiynau iddynt yn aml am eu ffydd a'r Beibl.

Mae ffigurau ymchwil YouGov sydd wedi ei gyhoeddi yn yr adroddiad 'The Quiet Revival' yn dangos bod 34% o bobl ifanc sydd ddim yn mynd i'r eglwys yn dweud y bydden nhw'n mynd pe bai ffrind neu aelod o'u teulu yn eu gwahodd.

Mae'r arolwg hefyd yn awgrymu bod 40% o'r holl bobl ifanc a gafodd eu holi yn dweud eu bod yn gweddïo bob mis.

Un sydd yn gweld Cristnogaeth yn bwnc anodd i'w drafod mewn sgyrsiau gyda'i ffrindiau ydy Ioan ab Iestyn.

"Ma’n rhywbeth sydd bach yn anodd i ddod lan mewn jyst siarad rhwng ffrindiau," meddai wrth Newyddion S4C.

"Ma’ nhw‘n gwbod ma’ nhw’n gallu gofyn cwestiynau a nai trio ngorau i ateb nhw.

"Ma’ nhw ‘di bod yn digon neis i fi, ‘dyn nhw ddim yn trin fi’n wahanol neu unrhyw beth, felly.

"Fi ‘di gofyn i rai o nhw ddod i Ffynnon, a weithiau ma’ nhw’n dod weithiau ma’ nhw’n brysur."

Image
Mae'r tri pherson ifanc yn mynychu Eglwys Ffynnon yn Llandysul
Mae'r tri pherson ifanc yn mynychu Eglwys Ffynnon yn Llandysul

Yn chwaraewr rygbi brwd, mae Bedwyr Llywelyn yn dweud ei fod wedi cael sawl sgwrs gyda'i ffrindiau am ei ffydd.

"Yn ddiweddar, especially dros yr mis a hanner, dwy fis diwethaf fi ‘di bod yn cael lot o sgyrsiau gyda ffrindiau fi ar ôl gemau rygbi neu ar y PlayStation yn hwyr yn y nos a pethe.

"Ma’ nhw obviously gyda didordeb ynddo fe achos bo’ fi’n mynd yn rheolaidd a wedyn ma’ nhw’n gofyn cwestiynau le fi’n gallu trial ateb neu fi ‘di cael cyfle gweddïo dros rai o nhw mas ar ôl gêm rygbi a pethe.

"Ma’ fe jyst yn profiad rili dda a rili fulfilling."

'Pwrpas'

Yn wreiddiol o Aberystwyth ond bellach yn byw yng Nghastell Newydd Emlyn mae Alaw Elisa, sydd yn 17 oed wedi mynd i'r eglwys drwy gydol ei bywyd.

Mae'n credu bod cyfnod clo Covid-19 wedi gwneud i bobl ofyn cwestiynau am fywyd, a bod yr eglwys wedi cynnig atebion iddi.

"Dwi’n credu bod ‘na gymaint o angen a ma’ pobl yn ceisio ffeindio cwestiynau a atebion i’r cwestiynau yna, i cwestiynau fel bywyd," meddai.

"Ond, dwi’n credu bod hwnna’n rhywbeth ma’r eglwys yn gallu cynnig a ma’ dilyn Duw yn cael ffeindio’r gwirionedd allan o fywyd a'r atebion yna."

Un arall sydd o'r farn bod y cyfnod clo wedi ysgogi pobl i feddwl am gwestiynau mawr bywyd yw Sian Rees, Pennaeth Cymdeithas y Beibl yng Nghymru.

"Y cwestiwn yw pam bod y twf yma yn digwydd," meddai.

"Dwi'n meddwl bod pobl yn gofyn cwestiynau mawr o fywyd, yn enwedig ar ôl y pandemig.

"Pobl yn gofyn 'oes na fwy i fywyd na jyst deffro a mynd i gwaith ac ailadrodd hynny.

"Felly mae 'na gwestiynau mawr yn cael eu holi. Ond mae'n diddorol mae'r pobl ifanc sydd gyda'r mwyaf o ddiddordeb.

"'Da ni gyd mor falch bod pobl yn ffeindio ffydd a pwrpas i fywyd nhw."

Image
Sian Rees, Pennaeth Cymdeithas y Beibl yng Nghymru
Sian Rees, Pennaeth Cymdeithas y Beibl yng Nghymru

'Dim byd i golli'

Mae 75% o bobl sy'n mynd i'r eglwys yn cytuno bod ganddynt ystyr i'w bywyd trwy fynd i'r eglwys, o gymharu gyda 49% sydd ddim yn mynd i'r eglwys, yn ôl yr ymchwil newydd.

Ceisio annog eraill i fynd i'r eglwys mae Ioan ab Iestyn ac Alaw Elisa, a phwysleisio bod dim byd i golli trwy wneud hynny.

"Does dim un person sydd yn gwybod popeth. Ma’ pawb yn dysgu trwy’r amser a ma’r ffordd ma’ pobl yn edrych ar y Beibl yn wahanol a ma’r ffordd ma’ pobl yn ymddwyn yn wahanol," meddai Ioan.

"Ma’ fe’n lle da i fod rili, a bydden i’n gweud wrthyn nhw i trio fe mas."

Ychwanegodd Alaw bod mynd i'r eglwys yn gyfle i holi mwy am ffydd a'r Beibl.

"Just gofyn y cwestiynau ‘na neu ffeindio rhywun, neu hyd yn oed jyst edrych lan ar-lein yr eglwys agosa’.

"A bydden i jyst yn dweud cer amdani achos does dim byd i golli."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.