Gorseinon: Apêl am gymorth i chwaraewr rygbi ifanc yn dilyn ymosodiad â chyllell
Mae apêl codi arian wedi ei sefydlu er mwyn cynnig cymorth i ddyn ifanc gafodd ei drywanu yng Ngorseinon y penwythnos diwethaf.
Dywed cyfeillion Morgan 'Hoppy' Hopkins ei fod wedi dioddef yr ymosodiad ar noson allan gyda'i ffrindiau a'i gariad.
Wrth aros am lifft adref, ymosodwyd ar Morgan gan unigolyn â chyllell.
Cafodd Morgan ei drywanu sawl gwaith, gan ei adael ag anafiadau i'w freichiau a'i goluddyn.
Dywed yr apêl ar dudalen gofundme fod y dyn ifanc wedi derbyn llawdriniaeth am dros 10 awr yn ysbyty Treforys, "lle bu'n rhaid iddynt dynnu rhan o'i goluddyn a gwnïo ei dendonau yn ôl at ei gilydd.
"Dywedodd llawfeddygon ei fod bron iawn â gwaedu allan. Nid yn unig mae gan Morgan anafiadau corfforol o'r ymosodiad hwn, ond bydd yn dioddef o drawma seicolegol am flynyddoedd i ddod.
"Pwrpas y dudalen Gofundme hon yw codi arian i Morgan gan ei fod yn mynd i fod allan o waith am beth amser."
Mae'r apêl hefyd yn gobeithio codi arian i Morgan "allu cael rhai sesiynau preifat ar gyfer adsefydlu corfforol a meddyliol pe bai'n dymuno cael hyn.
"Mae ein meddyliau'n mynd allan at Morgan a'i deulu yn ystod yr amser anodd hwn."
Mae Heddlu De Cymru wedi dweud bod dyn wedi ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio.
Mewn datganiad, dywedodd swyddogion: "Mae ymchwiliad yn parhau mewn perthynas ag ymosodiad difrifol a ddigwyddodd yn oriau mân y bore ddydd Sul Mehefin 22, 2025, yng Nghlwb Cymdeithasol The New Lodge, Heol Alexandra, Gorseinon.
"Mae'r dioddefwr yn parhau yn yr ysbyty mewn cyflwr sefydlog.
"Mae Kane Evans, 20 oed, o Gorseinon wedi cael ei arestio a'i gyhuddo o geisio llofruddio a bod â chyllell yn ei feddiant."