
Rhys Meirion: 'Aros am ganlyniadau profion canser yn anodd'
Rhys Meirion: 'Aros am ganlyniadau profion canser yn anodd'
Mae'r canwr clasurol, Rhys Meirion, wedi siarad am ei brofiad o dderbyn triniaeth ar gyfer canser y coluddyn.
Yn siarad ar rhaglen 'Heno' ar S4C, dywedodd y canwr ei fod yn teimlo’n "ffodus tu hwnt, fod y meddygon wedi dal y tiwmor yn gynnar" ac felly wedi gallu osgoi triniaethau pellach fel cemotherapi a radiotherapi, a hynny gan fod yr un llawdriniaeth gynnar wedi llwyddo i waredu'r cancr o'i gorff.
Yn cyflwyno'r rhaglen oedd Owain Tudur Jones a Mari Grug, sydd ei hun yn derbyn triniaeth canser.
"Dwi'n iawn erbyn hyn, yn gwella... Dwi wedi bod yn lwcus iawn o'i ddarganfod o'n gynnar," meddai Rhys Meirion.
"Roedd yn dipyn o sioc, dwi 'rioed 'di bod yn sâl ofnadwy, 'rioed wedi gorfod bod mewn i ysbyty."
Ond fe ddywedodd Rhys Meirion ei fod wedi defnyddio cit sgrinio arbennig yn y cartref, sy'n gallu darganfod olion canser yn y coluddyn.
Yn dilyn ymchwiliadau pellach fe ddywedodd y meddygon wrtho eu bod wedi darganfod tiwmor 3.5cm o faint yn ei goluddyn.

Roedd y meddygon wedi dweud wrth y canwr yn syth eu bod yn gobeithio fod y canser wedi ei ddarganfod yn gynnar.
"Fe es i ffwrdd i gael MRI a CT scan, roedd hyn i gyd wedyn yn digwydd o fewn pythefnos.
"Roedd rhaid aros wedyn am y canlyniadau, ac roedd hynny yn anodd wrth gwrs, ac roedd rhaid dweud wrth y teulu a ballu."
Dywedodd ei fod wedi gorfod dweud "ambell i gelwydd golau" yn y cyfnod cyn y llawdriniaeth, wrth orfod canslo rhai perfformiadau ac ymrwymiadau, oherwydd ei fod yn derbyn y profion cyn mynd o dan y gyllell.
Roedd canser Rhys Meirion yn cael ei adnabod fel canser 'cam dau', a'i fod wedi llwyddo i ddal y canser cyn iddo ddatblygu.
"Dwi wedi bod yn andros o lwcus, dwi'n gorfod pintsio fy hun a diolch fy mod wedi dod drwyddi mor dda. Os na fyswn wedi anfon y prawf 'na i ffwrdd, pwy a ŵyr, mi fysa wedi gallu bod yn stage three neu stage pedwar a mi fysa petha wedi bod yn lot mwy pryderus."

Mae Rhys Meirion eisoes wedi dychwelyd i'r llwyfan. Fe ganodd ei fersiwn o'r gân Anfonaf Angel gan Hywel Gwynfryn a Rhobat Arwyn yn angladd y diweddar Mike Peters yn Nyserth bron i fis yn ôl.
Fe eglurodd y canwr fod ganddo gynlluniau i deithio i'r Wladfa ym Mhatagonia ym mis Tachwedd, a'i fod hefyd wedi ymrwymo i noson themau 'gaucho' yn Aberystwyth, lle bydd yn ymuno â Bryn Fôn, Pedair a Dilwyn Morgan ar y llwyfan.