Newyddion S4C

Creu hanes trwy beintio murlun hyd cae pêl-droed o Jess Fishlock

Murlun Jess Fishlock

Mae murlun wedi cael ei beintio yng Nghaerdydd o chwaraewr Cymru Jess Fishlock, y murlun cyntaf hyd cae pêl-droed o chwaraewr benywaidd yn Ewrop.

Fishlock yw'r chwaraewr â'r nifer fwyaf o gapiau yn hanes Cymru, gan gynnwys tîm y dynion.

Ers ei gêm gyntaf yn 2006 mae hi wedi chwarae 162 o gemau a sgorio 47 o goliau.

Mae'r murlun newydd, sydd wedi ei beintio ym Mharc Pêl-droed y Sblot yng Nghaerdydd, wedi ei ddatgelu ychydig dros wythnos cyn i Gymru gychwyn eu hymgyrch hanesyddol yn Euro 2025.

Dywedodd Fishlock ei bod mor falch i weld y murlun wedi ei beintio yn ei thref enedigol.

"Mae'n fraint enfawr i gynrychioli Cymru ac i fod yn rhan o furlun cyntaf o'i fath yn dathlu ein hymddangosiad hanesyddol yn yr Euros yr haf hwn," meddai.

"Dwi mor falch i weld y murlun yn yr ardal cefais fy magu a lle'r oeddwn i'n chwarae pan oeddwn i'n blentyn, lleoliad sydd wedi chwarae rhan arwyddocaol yn fy ngyrfa.

"Dwi'n gobeithio bydd y murlun yn ysbrydoli bechgyn a merched i gwympo mewn cariad gyda phêl-droed ac yn gobeithio cynrychioli'r wlad brydferth hon un diwrnod, fel fi, sydd wedi bod mor ffodus i wneud hynny."

'Perthyn'

Cafodd y murlun ei greu gan yr artist Regan Gilflin gyda chymorth Shawqi Hasson a Yusuf Ismail o stiwdio greadigol UNIFY.

Mae Ms Gilflin wedi gweithio ar sawl brosiect gwahanol gan gynnwys portread o Betty Campbell i S4C a Jazz Legends of Tiger Bay i Drafnidiaeth Cymru.

Dywedodd ei bod yn hapus iawn i allu creu'r murlun.

"Mae hi wedi bod yn daith anhygoel yn creu'r murlun yma," meddai.

Image
  Regan Gilflin, Shawqi Hasson a Yusuf Ismail
  Regan Gilflin, Shawqi Hasson a Yusuf Ismail

Ychwanegodd: "Dwi wedi caru pêl-droed ers yn blentyn ac mae Jess wedi effeithio'n fawr ar nid yn unig y gamp, ond sut mae pobl yn cael eu gweld a'u gwerthfawrogi.

"Roeddwn i eisiau i'r darn adlewyrchu hynny, mae'n ymwneud â chael eich gweld, hunaniaeth a pherthyn a dwi mor hapus fy mod i wedi gallu creu hyn."

Mae'r murlun yn rhan o raglen ddiwylliannol swyddogol Llywodraeth Cymru ar gyfer Euro 2025 sydd wedi ei chyflwyno drwy ddull Tîm Cymru ac sy'n cael ei gefnogi gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru mewn partneriaeth â Chymdeithas Bêl-droed Cymru.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.