Newyddion S4C

'Rwy'n teimlo ei fod yn fy rheoli': Pryder dros brinder cyflenwad inswlin

ITV Cymru
Dee Parker

Mae menyw yn dweud ei bod hi’n byw mewn "ofn a phryder cyson" o gael digon o inswlin, ynghanol prinder byd-eang o rai mathau o'r feddyginiaeth.

Cafodd Dee Parker, sy'n fyfyrwraig theatr gerdd yng Nghaerdydd, ddiagnosis o Ddiabetes Math 1 pan oedd hi'n 16 oed.

Fe dreuliodd flynyddoedd yn chwistrellu ei hun cyn iddi lwyddo i gael ei siwgr gwaed i lefel a fyddai'n caniatáu iddi ddefnyddio'r pympiau inswlin mwy cyfleus.

Mae hi'n disgrifio'r heriau o fyw gyda'r cyflwr fel rhai "rhwystredig iawn".

Dywedodd: "Rydych chi'n ceisio jyglo'ch bywyd, mae fel swydd 24 awr, rydych chi'n ceisio sicrhau bod eich siwgr gwaed yn berffaith, eich bod chi'n byw eich bywyd, nad ydych chi'n cael hypos [lefelau isel], a bod triniaeth hypo arnoch chi."

Ond ers mis Ebrill, mae pethau wedi dod hyd yn oed yn anoddach, oherwydd prinder gweithgynhyrchu'r cetris (cartridge) inswlin y mae hi'n eu defnyddio.

"Byddwn i'n mynd i'r fferyllfa ac ni fyddent ar gael," meddai.

"Byddwn i'n mynd i'r feddygfa a fydden nhw ddim yn gwybod dim byd, byddwn i'n mynd at fy nyrsys diabetig ac maen nhw'n gwneud eu gorau i gael eich inswlin a does dim byd, mae'n ofn a phryder cyson bob mis - ydw i'n mynd i gael fy inswlin ar amser? Dydw i ddim yn gwybod."

'Ofn'

Fis diwethaf, fe aeth Dee am ddau ddiwrnod heb ei inswlin arferol, a bu’n rhaid iddi ddychwelyd i ddefnyddio cyflenwad brys o chwistrelliadau.

Roedd hynny’n golygu bod yn rhaid iddi fynd yn ôl i fonitro ei holl lefelau siwgr a charbohydradau ei hun, a chwistrellu 10 gwaith y dydd.

Fe gollodd ddiwrnod yn y brifysgol yn ymweld â gwahanol fferyllfeydd ledled de Cymru gyda’i theulu i geisio cael gafael ar ei meddyginiaeth.

Mae gan ei thad a’i nain y cyflwr hefyd.

"Pan gefais ddiagnosis, dywedodd fy nhad wrtha i, 'rwyt ti'n ei reoli, nid yw’n dy reoli di.' Ond yn ddiweddar rwy’n teimlo ei fod wedi bod yn fy rheoli i,” meddai.

"Ddylwn i ddim bod yn byw yn yr ofn hwnnw. 

"Mae’n feddyginiaeth sy’n ein cadw ni’n fyw, ni ddylai fod prinder, mae’n gwneud i mi ofni a phoeni, a straen yw e nad oes ei angen arnon ni.

"Pe na bai gen i inswlin, byddwn i’n mynd yn sâl iawn ac o bosibl yn marw, yr unig beth sy’n fy nghadw’n fyw yw’r pwmp hwn, os nad oes gen i inswlin byddaf yn marw - i’w roi’n blwmp ac yn blaen.

"Ddylwn i ddim bod yn rhoi'r gorau i fy mywyd i fynd ar ôl fy meddyginiaeth. 

"Nid fi yn unig sy'n dioddef, mae plant ifanc, cenedlaethau hŷn hefyd."

Image
Inswlin Dee
Inwslin Dee

'Ymwybodol'

Ar ddechrau mis Mehefin, rhybuddiodd yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol fferyllwyr am brinder cetris inswlin pwmp Novorapid y mae Dee yn eu defnyddio.

Dywed Alwyn Fortune o'r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol fod problemau wedi bod dros y flwyddyn ddiwethaf neu fwy gyda phrinder nifer o feddyginiaethau gan gynnwys inswlin.

Mae'r rhain, meddai, oherwydd "storm berffaith" o ffactorau gan gynnwys problemau gweithgynhyrchu, problemau dod o hyd i gynhwysion, a digwyddiadau byd-eang.

Ei gyngor i unrhyw un sy'n cael anhawster cael gafael ar eu cyflenwad rheolaidd yw siarad â phresgripsiynwr, neu fferyllydd i weld pa ddewisiadau eraill sydd ar gael.

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym yn ymwybodol o darfu ar gyflenwad cetris inswlin pwmp Novorapid a ddisgwylir iddo barhau tan 2027. 

"Mae paratoadau eraill ar gael, ac rydym wedi cyhoeddi cyngor ar reoli'r tarfu, i weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n cefnogi pobl yr effeithir arnynt."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.