Newyddion S4C

Caerdydd: Dyn mewn cyflwr 'difrifol' ac un arall wedi'i arestio yn dilyn ymosodiad

Heol y Gaer Caerdydd

Mae dyn mewn cyflwr "difrifol" ac un arall wedi'i arestio yn dilyn ymosodiad yn ardal Caerau yng Nghaerdydd.

Cafodd yr heddlu eu galw ychydig cyn hanner nos ddydd Mercher yn dilyn adroddiad bod dyn wedi ei anafu mewn cae gyferbyn â Heol y Gaer.

Dywedodd y llu bod dyn 32 oed mewn cyflwr "difrifol" yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn y brifddinas.

Mae dyn 39 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod.

Mae ymholiadau'r heddlu'n parhau.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.