Newyddion S4C

Dyn ifanc wedi ymgeisio am dros 400 o swyddi heb lwyddiant ar ôl graddio

Dyn ifanc wedi ymgeisio am dros 400 o swyddi heb lwyddiant ar ôl graddio

Ar ôl graddio yn 2024 roedd Tomas Taylor o Bontypridd yn edrych ymlaen i fentro i fyd gwaith.

Ond roedd ffeindio swydd yn dipyn o dasg wedi iddo ymgeisio am dros 400 o swyddi.

"Y rhif absolute oedd tua 418. Ar y pryd, roedd yn teimlo fel swydd llawn amser.

"Codi yn y bore a tan 4.00yp jyst yn edrych drwy LinkedIn ac Indeed.

"Ddim yn hwyl a byddwn i ddim isio mynd drwy hynna eto."

Er ei fod e bellach mewn swydd treuliodd Tomas gyfnod o saith mis yn ysgrifennu llythyrau cais.

"Os oeddwn i'n cael ymateb, fel arfer, pobl yn troi fi lawr heb roi unrhyw reswm pam.

"Chi'n rhoi'r oriau a'r gwaith called i mewn am ddim byd yn y diwedd."

Yn ôl ymchwil diweddar mae'r gystadleuaeth am swyddi ar ôl graddio wedi cyrraedd ei lefel uchaf mewn 30 mlynedd gyda disgwyl i bethau droi'n fwy cystadleuol yn y misoedd nesa.

"Mae'r farchnad swyddi'n mynd drwy adeg anodd ar y foment. Mae cyflogwyr yn chwilio am bobl gyda phrofiad.

"Mae profiad gwaith wedi mynd yn bwysicach i gyflogwyr.

"Mae rhai yn cwestiynu a yw pobl yn cael y profiadau neu'n derbyn y sgiliau maen nhw angen drwy'r gradd heb y profiad gwaith.

"Maen nhw isie cael y talent yn barod. Pobl sydd gyda'r sgiliau a'r profiad i wneud y gwaith yn glou."

Bydd miloedd o fyfyrwyr yn paratoi i raddio yr haf yma.

Yn eu plith, y criw yma o Brifysgol Bangor.

"Mae ambell un yn son am chwilio am swydd flwyddyn nesa. Mae ambell un sy'n gwneud cyrsiau proffesiynol yn barod megis addysg gynradd ac ati yn cael trafferth chwilio am swyddi.

"Mae hynna'n codi problemau lle mae pawb yn heidio i'r dinasoedd mawr."

"Mae 'na le i roi mwy o gefnogaeth i fyfyrwyr sy'n symud o'r brifysgol ac yn cymryd y cam nesa’ i helpu ni weld be sydd ar gael a chynnig y cyfleoedd i ni oherwydd 'dan ni'n gorfod chwilio ar ein pennau ein hunain.

"Does dim llawer o gefnogaeth."

Yn ôl llefarydd ar ran prifysgolion Cymru mae ymchwil yn dangos bod addysg prifysgo yn parhau i gynyddu cyfleoedd gyrfa.

Ond i'r rheiny fel Tomas roedd dod o hyd i swydd yn broses hir ac anodd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.