Newyddion S4C

Gwella signal ffôn i deithwyr ar drenau o Gymru i Loegr

Defnyddio ffon ar dren

Bydd gwell darpariaeth ar gyfer signal ffôn a dyfeisiau symudol i deithwyr ar drenau o Gymru i Lundain yn y dyfodol.

O dan gytundeb rhwng Network Rail a chwmniau telathrebu ni fydd mwyach unrhyw fanau heb signal ar lawer o brif reilffyrdd y DU gan gynnwys gwasanaethau GWR rhwng Cymru a Llundain, meddai Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU. 

Bydd y cytundeb newydd, o'r enw Project Reach, yn gweld Neos Networks yn gosod 1,000 cilomedr (621 milltir) o gebl ffibr optig cyflym iawn ar hyd prif reilffyrdd y DU.

Mae disgwyl i’r gwaith ddechrau’r flwyddyn nesaf a’i gwblhau erbyn 2028.

Dywedodd yr Adran Drafnidiaeth fod “uchelgais” i ehangu'r ceblau y tu hwnt i 5,000km (3,107 milltir) yn y "dyfodol agos".

Bydd cwmni Freshwave yn mynd i'r afael â diffyg signal mewn 57 o dwneli gan gynnwys twnnel Chipping Sodbury, pedwar cilomedr o hyd, ger Bryste ar y llinell rhwng Cymru â Paddington.

Fel rhan o'r cytundeb, bydd hefyd yn buddsoddi mewn seilwaith 4G a 5G newydd mewn 12 gorsaf reilffordd gan gynnwys Paddington.

Dywedodd yr Adran Drafnidiaeth fod y cytundeb yn “dod â buddsoddiad a seilwaith y sector cyhoeddus a phreifat ynghyd”, a disgwylir iddo arbed “tua £300 miliwn” i drethdalwyr.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth Heidi Alexander: “Mae hwn yn newid y gêm i deithwyr ledled y wlad, a bydd yn chwyldroi teithiau o Paddington i Penzance ac o Gaeredin i Euston.

“Drwy hybu cysylltedd a mynd i’r afael â mannau lle mae signalau’n brin, rydym hefyd yn sicrhau gwasanaeth mwy dibynadwy ac effeithlon.“Mae hyn yn golygu teithiau gwell i deithwyr wrth gefnogi ein cynllun ehangach ar gyfer nodau newid o dwf economaidd ac arloesedd digidol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.