Newyddion S4C

Cyhuddo dau ddyn o droseddau rhyw hanesyddol mewn cyn ganolfan blant

Heddlu

Mae dau ddyn yn eu chwedegau wedi eu cyhuddo o droseddau rhyw hanesyddol mewn cyn ganolfan blant yn y Fenni, Sir Fynwy rhwng yr 1970au a'r 1990au.

Yn ôl Heddlu Gwent, mae'r ddau ddyn, rhyngddyn nhw, wedi eu cyhuddo o 45 o droseddau honedig, sy'n gysylltiedig ag 16 dioddefwr.  

Digwyddodd y troseddau rhyw a chorfforol honedig yn bennaf yng Nghanolfan Asesu Coed Glas. 

Mae Angus Riddell, 69 oed, o Gwmbach, Rhondda Cynon Taf, wedi ei gyhuddo o 38 o droseddau, yn cynnwys tri achos o ymosodiad anweddus ar ferch o dan 16 oed, ac un achos o geisio ymosod yn anweddus ar ferch o dan 16 oed. 

Mae'r cyhuddiadau hefyd yn cynnwys 14 achos o ymosod yn anweddus ar fachgen o dan 14 oed, ac 20 achos o ymosod, esgeuluso, achosi dioddefaint neu anaf i berson ifanc. 

Mae Robin Griffiths, 65 oed , o Lyn Ebwy, Blaenau Gwent, wedi ei gyhuddo o saith achos o ymosod yn anweddus ar fachgen o dan 14 oed. 

Cafodd y ddau ddyn eu cyhuddo ddydd Gwener, 20 Mehefin, yn ôl Heddlu Gwent. 

Maen nhw wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth a bydd y ddau yn ymddangos yn Llys Ynadon Casnewydd ar 3 Gorffennaf. 

Cafodd y dynion eu harestio yn rhan o Ymgyrch Spinney. 

Mae'r ymchwiliad hwnnw gan yr heddlu wedi bod yn canolbwyntio ar honiadau gan ddynion a menywod am gamdriniaeth ryw a chorfforol yn erbyn plant, yn bennaf yn yr hen ganolfan asesu.

Hen Gyngor Sir Gwent oedd yn gyfrifol am ganolfan Coed Glas cyn iddi gau yn 1995.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.