Newyddion S4C

Dwy yn yr ysbyty ar ôl gwrthdrawiad yn Llandudno

22/06/2025
Ffordd Cwm

Mae dwy ddynes wedi eu cludo i’r ysbyty ar ôl i gar fwrw polyn lamp yn Llandudno.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i Ffordd Cwm am 20:30 ddydd Sadwrn.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod nhw wedi eu galw yno ar ôl adroddiad am wrthdrawiad yn cynnwys SEAT Altea llwyd.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru nad oedd yr un cerbyd arall yn rhan o’r gwrthdrawiad ac nad oedd gwybodaeth eto am anafiadau’r rheini oedd yn yr ysbyty.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.