Newyddion S4C

'Crasfa’ i’r Llewod yn Awstralia, meddai Campese

Y Llewod v Yr Ariannin

Fe fydd y Llewod yn cael “crasfa” yn erbyn Awstralia ar eu taith medd un o gyn-chwaraewyr enwocaf y wlad.

Dywedodd y cyn-asgellwr David Campese y bydd Awstralia yn rhoi “crasfa” i’r Llewod oni bai y bydd yna welliannau sylweddol yn eu perfformiad wedi iddyn nhw golli o 24-28 yn erbyn Yr Ariannin nos Wener.

Fe gwestiynodd Campese pa mor gorfforol oedd y Llewod, eu sgiliau tactegol, a dewisiadau’r prif hyfforddwr Andy Farrell, gan ddweud yn ei golofn ar wefan PlanetRugby: “Os ydyn nhw'n perfformio fel y gwnaethon nhw yn Nulyn yn ystod y gyfres Brawf, byddan nhw'n cael crasfa.

“Byddwn i'n mynd mor bell â dweud y byddan nhw'n colli 3-0 oni bai y gallan nhw drwsio ychydig o bethau a'u trwsio'n gyflym," meddai.

Roedd Campese hefyd yn llym ei feirniadaeth o berfformiad y Cymro Jac Morgan yn y gêm nos Wener.

Dywedodd: “Roedd yn rhaid i mi wirio i fod yn siŵr bod Jac Morgan hyd yn oed yn chwarae.

“Ie, fe gafodd un trosiant da, ond pan fydd eich blaenasgellwr ochr agored yn treulio 55 munud ar y cae, yn cario pedwar gwaith am chwe metr, ac yn llwyddo i wneud chwe thacl (un bob naw munud!)… roedd wedi mynd ar goll mewn perfformiad personol truenus.”

'Dwyster'

Fodd bynnag fe wnaeth o ganmol perfformiad y mewnwr Tomos Williams, a ddaeth ymlaen fel eilydd. 

Dywedodd: “Roedd Elliot Daly yn edrych ben ac ysgwydd na gweddill cefnwyr y Llewod pan ddaeth ymlaen, fel y gwnaeth Tomos Williams.

“Ond nid oedd eiliadau unigol o ddisgleirdeb yn ddigon i guddio'r diffyg dwyster cyffredinol."

Mae Campese, a enillodd 101 o gapiau dros Awstralia, yn cael ei ystyried fel un o sylwebyddion mwyaf di-flewyn-ar-dafod y gêm.

Ond i rai, mae ei ddicter tuag at y Llewod efallai yn deillio o’r camsyniad y gwnaeth yn eu herbyn yng ngêm olaf y gyfres yn 1991.

Fe ryngipiodd y Cymro Ieuan Evans y bêl o bas gan Campese i sgorio cais wnaeth sicrhau’r fuddugoliaeth a’r gyfres i’r Llewod.

Fe fydd y Llewod yn chwarae eu gêm gyntaf o'r daith yn Awstralia yn erbyn Western Force yn Perth ddydd Sadwrn nesaf.

Llun: X/British&IrishLions

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.