Yr Adar Gleision yn ffarwelio â’r capten Joe Ralls wedi 15 mlynedd
Mae clwb pêl-droed Dinas Caerdydd wedi ffarwelio a’u capten Joe Ralls wedi 15 mlynedd gyda'r clwb.
Roedd Ralls, chwaraewr hiraf ei wasanaeth yr Adar Gleision, wedi bod mewn trafodaethau yn y gobaith o ymestyn ei gyfnod yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Ond, ar ôl sgwrs gyda'r rheolwr newydd Brian Barry-Murphy, bydd y chwaraewr canol cae 31 oed yn gadael y clwb pan fydd ei gytundeb yn dod i ben ddiwedd y mis hwn.
Diolchodd Ralls i'r perchennog Vincent Tan a bwrdd Caerdydd ar y cyfryngau cymdeithasol, ac i Barry-Murphy am "fod yn hollol onest gyda mi".
Dywedodd Ralls: "Mae'n anhygoel o anodd dod o hyd i'r geiriau ar ôl 15 mlynedd yma... ond mae'r amser wedi dod i mi symud ymlaen ac i'r clwb fynd i gyfeiriad newydd.”
Fe wnaeth Ralls 409 o ymddangosiadau i Gaerdydd ar ôl ymuno ag academi'r clwb yn 2010.
Roedd yn rhan o’r tîm enillodd ddyrchafiad cyntaf y clwb i'r Uwch Gynghrair yn 2013 ac roedd yn ffigur allweddol o dan Neil Warnock pan ddychwelodd Caerdydd i'r uwch adran eto yn 2018. Cafodd ei enwi'n gapten y clwb yn 2022.
Dywedodd perchennog Caerdydd Vincent Tan: "Nid yw chwaraewyr fel Joe Ralls yn ymddangos yn aml iawn yn y gêm fodern.
"Mae Joe wedi dangos teyrngarwch a chariad anhygoel drwy gydol ei 15 mlynedd yma."
Llun: Asiantaeth Huw Evans