Cymorth i farw: ASau yn pleidleisio o blaid a dim hawl gan y Senedd i'w atal yng Nghymru
Fe fydd Llywodraeth y DU yn gallu penderfynu a fydd yr hawl i farw yn gyfreithlon yng Nghymru wedi pleidlais gan ASau yn Nhŷ’r Cyffredin.
Penderfynodd ASau ddydd Gwener o 274 pleidlais o blaid, a 224 yn erbyn (mwyafrif o 50) y bydd Llywodraeth y DU yn gallu rheoleiddio'r hawl i farw yng Nghymru.
Daeth y bleidlais honno cyn i ASau benderfynu cefnogi'r mesuryn ei gyfanrwydd, o 314 o blaid i 291 yn erbyn (mwyafrif o 22).
Bydd y mesur seneddol gan yr AS Kim Leadbeater yn mynd i Dŷ’r Arglwyddi ar gyfer ystyriaeth bellach ond mae disgwyl iddo ddod yn ddeddf.
Byddai'r Bil Oedolion â Salwch Terfynol (Diwedd Oes) yn caniatáu i oedolion â salwch terfynol sydd â chwe mis neu lai i fyw gael cymorth meddygol i ddod â'u bywydau eu hunain i ben.
Fe bleidleisiodd y Senedd yn erbyn egwyddor caniatáu'r hawl i farw mewn pleidlais ym mis Hydref y llynedd.
Mae’n bwnc sy’n eistedd ar ffin datganoli gan fod y system gyfiawnder heb ei datganoli ond iechyd wedi ei ddatganoli i Gymru.
Pleidleisiodd mwyafrif yr ASau Llafur o blaid rhoi'r hawl i Lywodraeth y DU reoleiddio yng Nghymru, tra bod ASau Plaid Cymru wedi pleidleisio yn erbyn.
Llun: Kim Leadbeater gan Dŷ'r Cyffredin / PA.