Newyddion S4C

Wedi methu cysgu neithiwr? ‘Top tips’ i gysgu mewn tywydd poeth

dyn yn cysgu

Gyda'r tywydd poeth yng Nghymru yn codi i bron 30C, beth all helpu pobl i gysgu’n well mewn cyfnodau o dywydd poeth?

Mae tymheredd poeth anarferol yn gallu effeithio ar batrwm cwsg pobl, gyda nifer yn parhau yn neffro yn ystod y nos am gyfnodau hir.

Fe all cyfnodau hir o ddiffyg cwsg gael effaith ar iechyd unigolion gan gynyddu’r risg o sawl cyflwr meddygol hir-dymor.

Dyma’r rhai o'r argymhellion gorau ar gyfer cysgu yn ystod y tywydd poeth.

1. Yfed digon o ddŵr

Mae yfed digonedd o ddŵr yn ystod y dydd yn helpu cadw tymheredd y corff yn isel a hydradol.

2. Lleihau tymheredd yr ystafell wely

Un awgrym ydy agor y ffenestri a chau’r llenni yn ystod y bore a’r nos pan mae’r tymheredd yn is. Yn ystod y prynhawn mae cau’r ffenestri a’r llenni yn atal aer poeth rhag dod i mewn i’r tŷ. 

Mae defnyddio gwyntyll yn ffordd dda o gael aer oer ar y corff.  

3. Dillad nos addas

Mae gwisgo pyjamas cotwm yn ffordd o gadw’r corff yn “cool”.

Hefyd ystyriwch ddefnyddio lliain ysgafn cotwm yn hytrach na dwfe trwm yn ystod y nosweithiau poethaf.

4. Bod yn greadigol

Fe allai rhoi dŵr rhewllyd mewn potel dŵr poeth yn ffordd dda o gadw yn oerach yn ystod y nos.

Awgrym arall yw rhoi ein sanau yn y rhewgell cyn eu gwisgo i fynd i gysgu i leihau tymheredd y traed.

5. Peidiwch cysgu yn ystod y dydd

Mae tywydd poeth yn gallu gwneud i ni flino yn ystod y dydd, a mae hynny oherwydd ein bod ni'n defnyddio mwy o egni er mwyn cynnal y tymheredd yn ein corff.

Ond os ydych chi'n cael trafferth cysgu yn ystod y nos, ceisiwch osgoi cysgu neu napio yn ystod y dydd er mwyn cysgu'n well pan ddaw'r nos.

6. Cadw at eich diwrnod arferol

Fe allai tywydd poeth gwneud i ni addasu ein harferion, ond mae hynny'n gallu effeithio ar ein cwsg.

Ceisiwch lynu at amseroedd cysgu arferol ac eich rŵtin cyn cysgu, pe bai hynny'n darllen, gwrando ar gerddoriaeth neu wneud bach o ioga.

7. Pwyllo

Os ydych chi'n gweld hi'n anodd cysgu, fe allwch chi geisio gwneud rhywbeth i bwyllo'r meddwl.

Mae hynny gallu bod yn darllen, ysgrifennu, plygu dillad - unrhyw beth sydd yn eich helpu i ymlacio.

Ond peidiwch mynd ar eich ffôn neu chwarae gemau cyfrifiadurol - fe allai hynny oedi eich cwsg ymhellach.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.