Stevie Williams allan o'r Tour de France o achos anaf
Mae'r Cymro Stevie Williams wedi cyhoeddi na fydd yn cymryd rhan yn y Tour de France eleni na Phencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Prydain.
Fe ddywedodd y seiclwr 29 oed ar ei gyfrif Instagram ei fod yn "siomedig" y bydd yn methu'r ddau ddigwyddiad.
Mae wedi gwneud y penderfyniad meddai yn sgil anaf i'w ben-glin.
"Ers cychwyn y tymor yn Awstralia, dwi wedi cael problem gyda fy mhen-glin dde...sydd yn anodd iawn i'w rheoli a dyw e ddim wedi ei ddatrys," meddai.
"Mi wnes i lwyddo i ddod yn ôl ar fy meic ar gyfer y Giro d'Abruzzo a'r Ardennes ond ers hynny dyw pethau ddim wedi bod cweit yn iawn."
Mae'n "gweithio yn galed" i fod yn ffit ac yn gobeithio medru seiclo unwaith eto yn fuan meddai.
Ychwanegodd: "Fel seiclwr yr unig beth ti eisiau gwneud yw seiclo felly mae'r tymor yma wedi bod yn rhwystredig iawn ond dwi'n gwybod nad yw hi'n bosib rhuthro'r pethe ma."
Bydd Ras Ffordd Prydain yng Ngheredigion rhwng 26 a 29 Mehefin a bydd y cystadleuwyr yn teithio trwy Aberystwyth, tref enedigol Williams. Yn ei neges ar Instagram mae'n dweud ei fod yn "siomedig" na fydd yno er mwyn gweld y dorf o adref.
Fe enillodd Stevie Williams y Tour Down Under yn Awstralia yn 2024.