Newyddion S4C

Dod o hyd i gorff dyn ger afon yn Llanelli

Llun o North Dock Llanelli

Mae corff dyn wedi ei ddarganfod ger afon yn ardal Doc y Gogledd, Llanelli.

Cafodd swyddogion heddlu eu galw i'r ardal tua 12.15 ddydd Sul.

Mae'r heddlu yn dweud nad ydyn nhw yn trin y farwolaeth fel un amheus ar hyn o bryd ond maen nhw'n cynnal ymchwiliadau er mwyn deall amgylchiadau'r farwolaeth.

Maent hefyd yn dweud bod yna ddelweddau sydd yn cael eu rhannu ar-lein a'u bod yn gofyn i bobl beidio eu rhannu er mwyn dangos parch at y dyn sydd wedi marw.

Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am wybodaeth ac yn dweud wrth pobl i gysylltu trwy ffonio 101. 

Llun: Google maps 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.